"Amser gorau fy mywyd"

Ursula ym Machynlleth Image copyright Ursula Martin
Image caption Cychwynnodd Ursula ei thaith drwy Gymru ym Machynlleth

Yn 2014 cychwynnodd Ursula Martin ar daith gerdded 3700 o filltiroedd drwy Gymru ar ei phen ei hun tra'n gorffen ei thriniaeth am ganser. Roedd hi'n disgwyl taith unig yn codi ymwybyddiaeth o'i hafiechyd, ond fe wnaeth ddarganfod rhwydwaith o gyfeillion hael, gwlad o amrywiaeth a phrydferthwch a chael "amser gorau ei bywyd".

Mae hi wrthi'n ysgrifennu llyfr am y daith ond fe ofynnon ni iddi geisio crynhoi ei phrofiad anhygoel:


Heb baratoi

Ro'n i'n adnabod Cymru, ac yn ei charu, ond fe roddodd y daith yma berthynas ddyfnach a dealltwriaeth well imi o'r wlad brydferth hon, fy ngwlad drwy enedigaeth a'r wlad 'dwi wedi ei mabwysiadu. Fe ges i fy ngeni ond nid fy magu yma er fod gen i gysylltiadau teuluol. Fe gerddais o amgylch Cymru am mai hon ydy gwlad fy nghalon, fedrwn i ddim dychmygu mynd i unrhyw le arall.

Ym mis Mawrth 2014 y cychwynnais ar fy nhaith. Doeddwn i ddim wir wedi paratoi'n iawn.

Roedd fy nghartref yn Machynlleth, fy apwyntiadau ysbyty ym Mryste. Fe gynlluniais daith a fyddai'n mynd â fi i'r ysbyty ac o amgylch y wlad, gyda Llwybr yr Arfordir a llwybr Clawdd Offa yn hawdd eu cyrraedd ac yn creu cylchdro godidog.

Image copyright Ursula Martin

Yna fe wnes i ychwanegu darnau: Llwybr Glyndŵr, y mynyddoedd, dwy afon. Fe welais i mod i'n gallu cerdded i fyny un afon ac i lawr un arall: y Conwy a'r Ddyfrdwy, y Tywi a'r Teifi, y Tâf a'r Wysg. Yn y diwedd roedd gen i lwybr cymhleth oedd yn mynd â fi dros y wlad i gyd, gan weld pob ochr o Gymru ond byth yn mynd yn rhy bell o'r ysbyty, y lle oedd yn ganolbwynt i 'nhaith.

Mi ddechreuais i efo pobl ro'n i'n eu hadnabod a chysylltu efo ffrindiau gan wybod y byddai gen i wely yn Llanybydder, Dinas Mawddwy, Caerdydd ac Aberystwyth. Ond fe gadwai'r cysylltiadau i dyfu. Roedd pobl yn rhannu nes yn sydyn ro'n i'n cael fy anfon 'mlaen at bobl i lawr y ffordd, cynigion o wlâu gan ddieithriaid llwyr. "Pan ddoi di i Bodfari, ty'd i aros efo fi".

Mwy nag un Cymru

Be sy'n fy nharo i fwyaf am Gymru wrth drio crynhoi fy nhaith, a fy nheimladau tuag ati, ydy'r amrywiaeth.

Mynyddoedd, ffermydd, rhostiroedd, traethau. Pentrefi, trefi, dinasoedd. O'r llinellau hir o dai teras sy'n leinio cymoedd trefol tarmacedig y de, gyda'u sŵn ceir parhaus, i dawelwch byddarol gwyllt mynyddoedd garw'r gogledd.

Image copyright Ursula Martin

Y gororau rhydyllog lle mae'r bobl yn byw'n agos at y cestyll, ddim yn swnio fel Cymry, ond yn Gymry; pentrefi pysgota Sir Benfro; bythynnod gwyliau; hufen iâ ac ymwelwyr; Llanymddyfri; Cwm Elan; ehangder gwag glaswelltir tonnog y canolbarth lle mae'r cudyll coch yn plymio a chwipio'n ddi-sŵn uwch ben.

Cymru yw hi i gyd. Un wlad. Ond nid dim ond un Cymru sydd, does dim un disgrifiad cryno y galla' i ei roi o'r peth gorau neu'r peth gwaethaf.

Roedd rhai o'r darnau mwy trefol yn eitha' hyll ond roedd y bobl bob amser yn gyfeillgar yn eu ffyrdd eu hunain: paned am ddim mewn greasy spoon; ffermwr ar ei quad yn aros am sgwrs; dieithriaid yn cynnig gwely am y nos neu arian yn cael ei roi yn fy nhun casglu, boed yn 50c neu £50. Fe ges i help o bob man. Help, haelioni, positifrwydd.

Image copyright Ursula Martin

'Un pentref mawr'

Ges i fy anfon at fodrybedd ym Mangor, chwiorydd ym Mhenarth, cysylltiadau yn Llanuwchllyn, Doc Penfro, Yr Ystog. Fe dyfai'r rhwydwaith yn barhaus: roedd pobl yn fy adnabod, yn clywed amdana' i nes dechreuodd Cymru deimlo fel un pentref mawr lle ro'n i'n adnabod pobl ym mhob cwr.

Image copyright Ursula Martin

Fe fyddwn i bob amser yn cerdded rhwng gwlâu, weithiau'n gwersylla, weithiau'n aros efo rhywun, byth mewn gwirionedd yn cychwyn i'r anwybod. Fe wnaeth hynny wahaniaeth enfawr i'r straen a roddodd y daith hon arna i. Ro'n i mewn dipyn o boen ar adegau, wedi blino'n lân, ond wnes i erioed dorri, ddaeth hi fyth i'r pen, a dwi'n credu bod hynny oherwydd yr holl help ges i.

'Y lladdwr tawel'

Ro'n i wedi cael triniaeth am ganser yr ofari cam 1A ym Mryste, profiad o salwch difrifol a roddodd ergyd ac ysgytwad imi. Roedd y daith yma'n ffordd o wneud imi deimlo'n normal eto, o deithio a darganfod fel ro'n i wedi bod yn ei wneud ond o fewn diogelwch gwlad gyfarwydd, saff. Hefyd er mwyn gwneud fy rhan yn lledaenu gwybodaeth am y symptomau a chodi arian i'r elusennau oedd yn fy nghefnogi.

Image copyright Ursula Martin

Mi gerddais er mwyn dweud wrth fenywod am symptomau canser yr ofari - mae gan Gymru un o'r cyfraddau isaf o ran goroesi canser yr ofari yn y DU.

Y lladdwr tawel ydi'r enw sy'n cael ei roi ar yr afiechyd. Ro'n i eisiau rhoi llais uchel iddo, siarad, ei wneud yn weladwy a gwneud i fenywod ddechrau meddwl amdano, ac efallai eu helpu i fynd at y meddyg yn gynt.

'Amser gorau mywyd'

Felly fe gerddais, y ffordd symlaf o gwrdd â phobl. Fe gerddais am filoedd o filltiroedd. Fe siaradais efo pobl a dosbarthu cardiau'n egluro'r symptomau. Mi godais dros £11,000 i elusen.

Fe gymerodd hi 17 mis ac mi ges i amser gorau 'mywyd.

'Dw i wedi crwydro'r wlad sawl gwaith a dwi ddim ond newydd ddechrau.

(Cyfieithiad o'r Saesneg yw'r erthygl yma.)

Image copyright Ursula Martin

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.