Cynghorau gwledig yn galw am fwy o arian

arian Image copyright PA

Mae cynghorau gwledig wedi galw am fwy o arian gan lywodraeth Cymru ar ôl iddyn nhw dderbyn y toriadau mwyaf dwfn ymysg awdurdodau lleol.

Mae'r corff sy'n cynrychioli cynghorau wedi awgrymu dylai'r siroedd mwyaf gwledig derbyn hyd at £4.75m i warchod nhw yn erbyn toriadau yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywed llywodraeth Cymru fod y fformiwla sy'n cael ei defnyddio i ddosbarthu'r arian sydd ar gael i awdurdodau lleol yn cael ei gytuno bob blwyddyn mewn partneriaeth a llywodraeth leol.

Mae arweinydd cyngor Powys yn dweud fod ardaloedd cefn gwlad yn cael cam dan y system ariannu bresennol.

Mae'r wrthblaid yn y cynulliad yn bygwth trechu cynlluniau'r llywodraeth ar gyfer cyllido cynghorau os nad ydy gweinidogion yn canfod mwy o arian.

Heb fwyafrif yn y Senedd, mae angen cefnogaeth y gwrthbleidiau ar Lafur i ennill pleidleisiau.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud dylai £4.74m yn ychwanegol gael ei ranu rhwng Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Fynwy.

Yn ogystal, mae 'na gynnig gwahanol i roi £2.48m i'r tri chyngor cyntaf.

Flwyddyn nesaf mae'r llywodraeth yn bwriadu torri o leiaf 3.1% o gyllideb Powys, Ceredigion a Sir Fynwy, tra bydd Caerdydd - yr awdurdod mwyaf a'r un mwyaf trefol - yn colli 0.1%.

'Mwy o arian y pen..'

Er gwaethaf y toriadau, fe fyddai Powys a Cheredigion dal i gael mwy o arian y pen na Chaerdydd.

Mae'r Gymdeithas yn dweud bod angen newid y fformiwla sy'n penderfynu faint mae cynghorau yn cael, gan ddweud bod awdurdodau gwledig yn colli arian gan nad yw eu poblogaethau nhw yn tyfu mor gyflym â rhai dinasoedd a threfi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae'r fformiwla sy'n cael ei defnyddio i ddosbarthu'r arian sydd ar gael i awdurdodau lleol yn cael ei gytuno bob blwyddyn mewn partneriaeth a llywodraeth leol.

"Mae awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cael eu cynrychioli ar y grŵp sy'n ystyried newidiadau i'r fformiwla ynghyd ag aelodau annibynnol sydd yn sicrhau nad oes tystiolaeth o blaid, neu yn erbyn, diddordebau unrhyw awdurdod lleol unigol.

"Rydym wedi nodi'r galwadau am grant i leihau'r effaith ar awdurdodau lleol cefn gwlad sydd yn derbyn setliadau grantiau refeniw cynorthwyol is ac fe fyddwn yn edrych ar hyn ynghyd a thystiolaeth arall yr ydym yn ei dderbyn fel rhan o'r gwaith sgriwtini cyllidebol.

"Darpar setliad llywodraeth leol yw hwn am mae'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Bydd trafodaethau'n cael eu cynnal fel rhan o'r broses yma."