Cyllid i arbed cadwraeth rhai o archifau Cymru

map

Bydd pedwar gwasanaeth archif yng Nghymru yn cael cyfanswm o dros £28,000 i wneud gwaith cadwraeth hanfodol ar eitemau yn eu casgliadau sy'n fregus neu wedi eu difrodi.

Fe ddaw hyn yn sgil partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Genedlaethol.

Bydd y cyllid yn talu am ddiogelu eitemau na fu'n bosibl i bobl eu gweld oherwydd eu cyflwr, er mwyn sicrhau eu bod ar gael i ddefnyddwyr lleol, myfyrwyr ac ymchwilwyr.

Y pedwar gwasanaeth sy'n elwa yw Archifau prifysgol Bangor, Archifau Sir Ddinbych, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ac Archifau Wrecsam.

Bydd y broses ddiogelu yn ei gwneud yn bosibl digideiddio'r dogfennau, gan sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol Cymru ar gael yn ehangach i gynulleidfaoedd ar-lein.

Mae'r sefydliadau a'r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys mapiau o gasgliad Ystâd y Penrhyn, sef cyfres ddi-dor o ddogfennau s o sut y cafodd yr ystâd ei rheoli yn ystod y 19eg ganrif.

Map o stad Y Penrhyn

Mae rhai o'r mapiau'n cyfeirio at faterion hanesyddol y cyfnod, er enghraifft, cafodd map Penrhyn/2219 ei gynhyrchu o ganlyniad i'r epidemig o golera ym Mangor yn yr 1850au.

Cafodd papurau Ystâd y Penrhyn eu derbyn ar ran y genedl yn lle treth etifeddiant yn 2010, ac ystyrir eu bod o arwyddocâd eithriadol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Siartiau Brenhinol Bwrdeistref Dinbych yw'r rhai hynaf sydd yn dal mewn bodolaeth yn y gogledd.

Maen nhw'n rhoi tystiolaeth brin o fywyd yn y canol oesoedd, o 1290 i 1662.

Casgliad arall a fydd yn cael ei ddiogelu yw casgliad o lyfrau ryseitiau a phresgripsiynau meddyginiaethol, sy'n adlewyrchu twf L. Rowland and Son Ltd (Numark), o fod yn fusnes lleol i fod yn un o'r busnesau pwysicaf yn Wrecsam.

Mae'r casgliad hwn yn gofnod manwl o ryseitiau meddyginiaethol a'u defnydd fel presgripsiynau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:

"Dw i wrth fy modd hefyd o allu helpu i ddiogelu dau gasgliad pwysig lleol, un ohonyn nhw'n cynnwys tystiolaeth ynghylch datblygiad Dinbych a'r llall yn cynnwys gwybodaeth hynod ddiddorol am waith fferyllydd ym 1759 yn Wrecsam."