Ceidwadwyr yn addo peidio ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd

Darren Millar

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo ail-agor unedau mân anafiadau ac wedi addunedu i beidio ag ad-drefnu'r GIG pe bai nhw'n ffurfio llywodraeth wedi etholiadau'r cynulliad ym mis Mai.

Mae'r blaid hefyd wedi dweud y byddai'n ailsefydlu gwasanaethau gofal arbennigol ar gyfer babanod yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro.

Fe gafodd gofal ar gyfer genedigaethau cymhleth ei symud o Hwlffordd i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, yn 2014.

Dywedodd llefarydd Iechyd yr Wrthblaid, Darren Millar, fod polisiau Llafur yn andwyol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae'r Torïaid yn addo cadw'r holl adrannau achosion brys sydd eisoes yn bodoli ac ail-agor unedau mân anafiadau mewn ysbytai cymunedol yn Y Drenewydd, Powys, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, Bae Colwyn yn Sir Conwy a'r rhai yn y Rhyl a Phrestatyn yn Sir Ddinbych.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddai £20 miliwn ar gael i annog y "defnydd arloesol" o ysbytai cymunedol.

'Ymrwymiad'

Ychwanegodd Mr Millar: "Yn wahanol i'r etifeddiaeth mae Llafur wedi ei adael, y toriadau, cau ac israddio, rydym yn gwneud ymrwymiad heddiw i sicrhau, ail-agor ac ehangu mynediad i wasanaethau'r GIG yng Nghymru.

"Ni fyddai unrhyw ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd o dan weinidog iechyd y Ceidwadwyr Cymreig a byddai unedau mân anafiadau sydd wedi eu cau gan Lafur - unedau allweddol - yn cael eu hadfer er mwyn lleihau'r pwysau ar ein hadrannau brys a hefyd er mwyn darparu mynediad mwy cyfleus i gleifion."

Dywedodd Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Os ydynt yn [y Ceidwadwyr] yn meddwl fod popeth yn iawn fel arall, ac mai dim ond angen ailagor unedau mân anafiadau mewn dim ond pedwar ysbyty cymunedol sydd ei angen, yna yn amlwg nid oes ganddynt unrhyw awydd i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hir ar gyfer diagnosis a thriniaeth yng Nghymru."

Straeon perthnasol