Bos newydd Yr Urdd

Sioned Hughes

Mae yna berson newydd wrth lyw un o fudiadau mwyaf amlwg yr iaith Gymraeg eleni.

Sioned Hughes sydd wedi olynnu Efa Gruffudd Jones fel prif weithredwr Urdd Gobaith Cymru ac mae hi wedi bod yn rhannu ei gweledigaeth gyda Cymru Fyw:


Beth ydi dy weledigaeth ar gyfer yr Urdd?

Pan o'n i'n mynd am y swydd roedd y canmlwyddiant yn amlwg yn beth mawr iawn o ran y broses. Dwi'n gwybod na [mewn] chwe blynedd mae hynny ond, yn sicr, dwi eisiau gweld yr Urdd yn adeiladu ar y gwaith da 'dyn ni yn ei wneud eisoes.

Dwi eisiau gweld ni'n cynyddu ein haelodaeth a'n bod ni'n ennyn mwy o ddealltwriaeth a pharch gan y di-Gymraeg a bod ni'n cysylltu'n well gyda rhieni, rhieni di-Gymraeg, a gwneud yn siŵr bod ni'n gyfredol iawn i bobl ifanc a phlant Cymru.

Mae dy gefndir yn y maes tai, beth fyddet ti'n ddweud wrth bobl sydd efallai'n amau dy fod yn ddibrofiad o ran gweithio gyda phlant?

Mae gen i dîm o dros 200 o bobl efo'r profiad o weithio efo plant a phobl ifanc. Mae'n angerdd i tuag at y pwysigrwydd eu bod nhw'n cael y parch a'r cyfleoedd yn goresgyn unrhyw ddiffyg profiad sydd gen i.

Roedd eich rhieni yn rhedeg cangen leol yr Urdd yn Rhuthun gyda rhieni'r actor Rhys Ifans yn y gorffennol - beth yw eich atgofion cyntaf o'r Urdd?

Yn sicr aelwyd yr Urdd yn Rhuthun, mi oeddem ni'n gwneud cyd-adrodd, ac ro'n ni'n aflwyddiannus iawn efo canu'n unigol! Mae'n atgofion i o'r Urdd yn felys ofnadwy.

Pan o'n i'n paratoi ar gyfer mynd am y swydd, a dweud y gwir, yr atgofion yna wnaeth wneud i fi deimlo'n gry' iawn dros fod isio'r swydd achos do'n i ddim yn sylweddoli pa mor gry' oedden nhw.

Dwi'n cofio mynd i Lan Llyn a gwneud ffrindiau hyd heddiw ar draws Cymru. Dwi'n ffeindio bod gan ganran uchel iawn o bobl yng Nghymru, boed nhw'n Gymry Cymraeg neu beidio, atgof neu gysylltiad efo'r Urdd a dwi'n meddwl bod hwnna'n arbennig iawn.

Wyt ti'n teimlo bod yr Urdd wedi newid ac addasu gyda'r amser fel bod rhaid?

Dwi'n meddwl ei fod o. Dwi heb weld yr ystadegau ond dwi'n gwybod ein bod ni'n cael dip o ran (aelodaeth) plant 11 i 16.

'Dyn ni'n gwneud gymaint a fedrwn ni o ran y cyfryngau torfol, ydyn ni'n ymateb mor gyflym a fedrwn ni i'r maes yna? Ydyn ni'n marchnata gymaint a fedrwn ni?

Dwi ddim yn siŵr ar hyn o bryd ac, yn sicr, dyna dwi'n bigo fyny gan staff. Mae angen sicrhau bod pobl yn gwybod beth ydyn ni'n wneud.

Image caption Roedd Mistar Urdd yn ran amlwg o'r dathliadau i groesawu'r Eisteddfod i Gaerffili yn 2015

Mae angen mwy o waith felly er mwyn hybu gwaith a marchnata'r Urdd?

Dwi'n meddwl ein bod ni'n dda iawn yn siarad gyda'r cynulleidfaoedd sy'n gwybod amdanom ni. Dwi eisiau'r cyfryngau Cymreig drwy gyfrwng y Saesneg gymryd sylw o beth rydym yn wneud tu allan i wythnos yr Eisteddfod.

Dwi eisiau iddyn nhw weld y gwaith 'dyn ni yn wneud a'i fod o'n newyddion bod gan yr Urdd brif weithredwr newydd i'r Cymry di-Gymraeg achos dwi'n meddwl bod o'n bwysig iawn ennyn parch a'r gefnogaeth yna er mwyn sicrhau'r dyfodol a'r gweithgareddau.

Sut mae apelio at y di-Gymraeg felly?

Dwi wedi cael lot o sgyrsiau gyda rhieni di-Gymraeg a'r ffordd o apelio ydi siarad drwy eu cyfryngau nhw a does dim angen nhw deimlo nad ydyn nhw'n cael bod yn rhan ohono.

Dwi'n gwybod bod Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn llwyddiannus drwy geisio denu pobl sydd ddim yn siaradwyr Cymraeg. Mae yna lot fawr y dylen ni fod yn ei wneud i apelio atyn nhw ac mae hi'n bwysig gwrando arnyn nhw.

Ydi hi'n bwysicach cynnal yr Eisteddfod mewn ardal fel Caerffili yn hytrach na'r Bala, er enghraifft?

Fyswn i ddim yn licio dweud ei fod o'n bwysicach cynnal yr Eisteddfod mewn un lle na'r llall. Mae'n bwysig cefnogi'r ardaloedd sy'n naturiol Gymraeg a'u cryfhau achos dwi ddim yn meddwl bod unrhyw gymuned yn saff o beth welon ni o'r cyfrifiad diwethaf.

Falle ein bod ni'n gallu dangos gwaddol gryfach o fod wedi bod yn Llancaiach Fawr ond mae'n bwysig dangos ein bod yn berthnasol i bob rhan o bob cymuned yng Nghymru.

Mae Mistar Urdd yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed eleni, oes angen diweddaru a moderneiddio'r Urdd fel brand?

Mae Mistar Urdd wedi gwneud gwyrthiau o ran bod yn frand cryf i'r Urdd ac mae pawb yn ei nabod o. Dwi'n credu bod 'na le i Mr Urdd yn sicr ond mae angen edrych ar bryd yda ni'n ei ddefnyddio fo.

Mae brand yr Urdd yn gryf ofnadwy, ond mae angen cefnogi hynny a chyfathrebu a siarad.

O ran aelodaeth Yr Urdd, ydi hi'n bosib gwella'r apel i bobl ifanc dros 16?

Dwi heb weld yr ystadegau mwyaf cyfredol, ond yr awgrym ydi, ddim i dynnu ein llygad oddi ar lle'r ydym ni'n llwyddiannus, ond i gryfhau yn yr ardaloedd hynny dros 16 neu ychydig yn llai weithiau.

Dyna lle mae'r cyfryngau torfol a'r ystod o weithgareddau 'da ni'n wneud ac mae angen sgwrs gyda'r bobl yna er mwyn deall beth maen nhw angen. 'Da ni'n ymwybodol bod angen canolbwyntio ar yr oedran yna.

Be ydi'r heriau sy'n dy wynebu yn y blynyddoedd nesaf?

Yr her ydi sicrhau ein bod yn parhau i dyfu. Mae'r aelodaeth ar y cyfan ar i fyny ac mae ein gwersylloedd yn fwy prysur nag erioed.

Y sialens fwyaf ydi bod yn berthnasol, yn gyfredol efo ein haelodau. Mae pethau'n newid mor gyflym rŵan.

Efallai, gyda'r toriadau sy'n digwydd i awdurdodau lleol, bod yna sialens i fi a'r Urdd i gymryd y cyfle yna rŵan ac i ddarparu a helpu lle mae'r sector gyhoeddus yn gorfod tynnu'n ôl.

Straeon perthnasol