Ymosodiad mosg Y Rhyl: Cymhelliad crefyddol

Canolfan Islamaidd Y Rhyl Image copyright Google

Mae dyn wedi cyfaddef fod ganddo gymhelliad crefyddol pan daflodd dân gwyllt drwy flwch postio mosg yn Y Rhyl.

Fis diwethaf fe blediodd Keith Edward Hall, 38 oed, yn euog i achosi difrod troseddol i'r Ganolfan Islamaidd yn Stryd y Dŵr ond roedd yn gwadu cyhuddiad o achosi difrod troseddol gyda chymhelliad crefyddol.

Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Prestatyn ddydd Gwener fe newidiodd ei ble i euog ac yna fe gafodd y cyhuddiad blaenorol ei ollwng.

Dywedodd Wyn Jones ar ran yr erlyniad fod dyn lleol wedi gweld y diffynnydd yn croesi'r stryd tua'r mosg gyda thaniwr sigaréts yn un llaw a gwrthrych yn y llaw arall - yn iddo glywed tri ffrwydrad.

Pan gafodd ei holi gan yr heddlu, dywedodd Hall ei fod wedi bod yn yfed mewn bar cyfagos ac nad oedd yn cofio mynd i'r mosg.

Cafodd yr achos ei ohirio tan ddydd Llun er mwyn i adroddiadau gael eu paratoi, a dywedodd cadeirydd y fainc David Davies bod pob opsiwn yn agored wrth ystyried cosb.