Damwain lori: Dyn o Ben-y-bont mewn cyflwr difrifol iawn

Heol Faraday Image copyright Arall
Image caption Roedd y ddamwain yn Heol Faraday yn Plymouth

Mae Cymro mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty oherwydd damwain lori yn Plymouth.

Cafodd y dyn 31 oed o Ben-y-bont anafiadau difrifol wrth ddadlwytho lori yn Heol Faraday.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 10:15 fore Iau.

Mae'r dyn yn Ysbyty Derriford.

Mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw wedi apelio am dystion a'r heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio.