Sarhau dyn ag acen Gymreig yng nghanol Manceinion

Stryd Oldham
Image caption Stryd Oldham ym Manceinion

Mae'r heddlu wedi dweud bod dyn ag acen Gymreig wedi ei sarhau yng nghanol Manceinion.

Nos Fercher am 20:25 yn Stryd Oldham roedd wedi dweud "Na" pan ofynnodd dau ddyn iddo a oedd ganddo sigarét.

Cyfeiriodd Heddlu Manceinion at y "drosedd gasineb" ar Twitter.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn gwylio lluniau teledu cylch cyfyng ac yn cynnig cysur i'r unigolyn dan sylw.