'Anaddas' gweddïo mewn cyfarfodydd cyngor

Gweddi Image copyright Thinkstock

Mae ymgyrchwyr wedi dadlau y dylid dod a'r arferiad o gynnal gweddïau Cristnogol mewn cyfarfodydd cynghorau i ben - gan ddweud nad yw'n 'addas' mewn sefydliadau democrataidd.

Dywedodd 12 cyngor sir wrth BBC Cymru eu bod yn cynnal gweddïau cyn cyfarfodydd, gyda 10 cyngor arall yn dweud nad ydyn nhw'n gwneud hyn.

Mae rhai cynghorau'n cynnal gweddïau fel rhan o gyfarfodydd, gyda phobl sydd yn dymuno peidio cymryd rhan yn aros y tu allan. Mewn cynghorau eraill caiff gweddïau eu hadrodd mewn cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal cyn cyfarfodydd swyddogol yr awdurdodau lleol.

Mae'r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol wedi galw ar yr arfer ddod i ben, gan ddweud na ddylai defodau crefyddol fod yn rhan o fusnes swyddogol cyfarfodydd cynghorau.

"Rydym yn credu y dylai cyfarfodydd llywodraeth leol gael eu cynnal mewn ffordd sydd yn gyfartal o ran croeso i bawb sy'n eu mynychu, beth bynnag yw eu credoau crefyddol neu ddiffyg credoau," medda'r gymdeithas.

'Ymgynghori'

Dywed yr Eglwys yng Nghymru y dylai'r cynghorau ymgynghori gydag aelodau unigol yr awdurdodau lleol a dod i gytundeb os oedd y weithred yn un addas ar gyfer eu cyfarfodydd.

Mae deiseb ar y we yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddod a'r arfer i ben. Dywed y cyngor fod gweddïau yn cael eu hadrodd am tua hanner munud cyn cyfarfodydd ac mae'r rhai hynny sydd ddim am gymryd rhan yn sefyll tu allan fel arfer.

Mae Cyngor Casnewydd wedi newid yr arfer dros flwyddyn yn ôl, a bellach mae adrodd gweddïau yn digwydd yn annibynnol cyn cyfarfodydd swyddogol y cyngor.

Mae Miqdad Al-Nuiami yn gynghorydd dros ardal Stow Hill yng Nghasnewydd, ac mae'n dweud yr hoffai weld crefyddau eraill yn cael eu cynnwys hefyd.

"Roedd yn arfer bod yn rhan ffurfiol o gyfarfodydd y cyngor, ac roeddwn yn cymryd rhan bob tro," meddai.

"Roedd rhai aelodau Cristnogol yn aros cyn dod i mewn tan ar ôl y rhan yma, er mwyn dangos eu barn y dylai fod yn seciwlar, waeth beth yw'r grefydd.

"Fe wnes i ymestyn y peth, ac fe ges i'r cyngor i wahodd credoau eraill hefyd.

"Roedd rhai aelodau'n gwrthwynebu hyn. Roedd 'na ddynes o'r gymuned Sikh yno, ac fe wnaeth ambell aelod gerdded allan, ac roeddwn yn credu fod hyn ychydig yn anoddefgar."

'Credoau eraill'

Ychwanegodd Mr Al-Nuiami: "Rwy'n credu fod yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud nawr yn ffordd dda o ddelio gydag o. Fe fyddwn i'n cefnogi lledaenu hyn i gredoau eraill ac yn wir i'r gymdeithas seciwlar.

"Beth am fod yn agored i farn a gweddïau pobl eraill."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Rydym yn credu yng ngrym gweddi ac fe fydde ni'n annog pobl i weddïo am arweiniad, cymorth a chefnogaeth Duw cyn bob cyfarfod.

"Fodd bynnag, nid yw gweddi'n rhywbeth y gallwch ei orfodi i bobl wneud neu beidio â gwneud, felly fe fyddem yn galw ar gynghorau i ymgynghori gydag aelodau unigol yr awdurdodau lleol a dod i gytundeb os oedd y weithred yn un addas ar gyfer eu cyfarfodydd."

Cynghorau sy'n cynnal gweddïau:

Bro Morgannwg, Nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd, Ceredigion, Conwy, Fflint, Powys, Torfaen, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Ynys Môn

Cynghorau sydd ddim yn cynnal gweddïau:

Abertawe, Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Gwynedd, Pen-y-bont, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Wrecsam