Wrecsam 1-3 Woking

Colli Image copyright Getty Images

Hon oedd y bedwaredd gêm o'r bron i Wrecsam golli - gyda'u gwrthwynebwyr Woking yn sicrhau rhediad o saith buddugoliaeth.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen yn gyntaf, yn dilyn ymgais Keiran Murtagh i rwydo, ond fe aeth y bêl i'r gôl wedi iddi daro cefn gôl-geidwad Wrecsam, Rhys Taylor.

Daeth cic rydd wych Dominic Vose a'r ddau dîm yn gyfartal, ond fe aeth Woking yn ôl ar y blaen wedi'r hanner gydag ymdrech gan Joe Quigley o groesiad.

Bruno Andrade gipiodd y tri phwynt i Woking, gan ddod a phrynhawn siomedig Wrecsam i ben.