AS Cymreig Llafur: 'Braint' fyddai arwain y blaid

smith
Image caption Mae Owen Smith yn mynnu nad yw'r swydd yn wag ar hyn o bryd

Byddai arwain y Blaid Lafur yn y dyfodol yn "fraint" ac yn "anrhydedd", meddai un Aelod Seneddol Cymreig.

Ond mynnodd Owen Smith nad oedd y swydd yn wag ac mai Jeremy Corbyn fydd yn arwain y blaid i'r etholiad cyffredinol nesa'.

Daeth sylwadau aelod Pontypridd a llefarydd gwaith a phensiynau'r blaid mewn cyfweliad gyda chylchgrawn y New Statesman.

"Dydi'r swydd ddim yn wag ar hyn o bryd," meddai Mr Smith, cyn lefarydd y blaid ar Gymru.

"Ond rwy'n credu bod pob gwleidydd eisiau ceisio newid y byd er gwell, gan ddechrau gyda'u hardal nhw gan weithio tuag allan.

"Rwy'n credu eu bod nhw yn y maes anghywir ac nad yw'r holl wir yn cael ei ddweud os nad ydyn nhw'n dweud 'petai'r cyfle yno i fod wrth y llyw gyda'r cyfle i weithredu eich gweledigaeth ar gyfer Deyrnas Unedig well, a fyddech yn ei gymryd?'

"Wrth gwrs, byddai'n fraint anhygoel ac yn anrhydedd cael gwneud hynny."

Ond pwysleisiodd y bydd yr arweinydd presennol yn dal yn ei swydd mewn pedair blynedd: "Fe gafodd fwyafrif aruthrol. Jeremy fydd yn ein harwain i'r etholiad yn 2020, dyna ddiwedd arni," ychwanegodd Mr Smith.

Image caption Mae Owen Smith yn wleidydd 'talentog', meddai Jo Stevens

Ymunodd Aelod Seneddol Canol Caerdydd â mainc flaen y Blaid Lafur yr wythnos hon, wedi ymddiswyddiadau gan weinidogion yn ystod ad-drefnu cabinet yr wrthblaid.

Dywedodd Jo Stevens wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales fod Mr Smith yn "ddyn sy'n siarad yn blaen", gan ychwanegu: "Dydi e ddim yn credu y bydd swydd yr arweinydd yn wag.

"A ydw i yn ei weld fel arweinydd yn y dyfodol? Rwy'n credu ei fod yn wleidydd talentog iawn, iawn ac byddwn yn hoffi ei weld fel arweinydd y Blaid Lafur yn y dyfodol."