Rhydychen 3-2 Abertawe

Kemar Roofe Image copyright Reuters

Mae Abertawe allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli i ffwrdd yn Rhydychen o'r ail adran.

Fe sgoriodd Kemar Roofe ddwywaith i'r tîm cartref yn un o ganlyniadau mwyaf annisgwyl y penwythnos.

Jefferson Montero gafodd y gôl gyntaf i'r Elyrch cyn i Liam Sercombe wneud hi'n gyfartal.

Cafodd Kemar Roofe ddwy gôl i Rydychen wedi'r hanner i sicrhau eu bod yn y bedwaredd rownd am y tro cyntaf mewn 17 mlynedd, er gwaethaf gol Bafetimbi Gomis.