Scarlets 21-19 Connacht

Mae'r Scarlets ar frig tabl y Pro 12 wedi buddugoliaeth yn erbyn Connacht.

Roedd cic gosb munud olaf gan Steve Shingler yn ddigon i'r tîm cartref ennill y gêm ym Mharc y Scarlets.

Matt Healy gafodd gais cynta'r gêm dros yr ymwelwyr gydag Aled Thomas yn cicio'r pwyntiau i'r tîm cartref.

Fe sgoriodd Steff Evans a Michael Collins geisiau i roi'r Scarlets ar y blaen. Ond gyda dwy funud yn weddill fe giciodd Jack Carty'n llwyddiannus i roi Connacht ar y blaen, cyn i Steve Shingler selio'r fuddugoliaeth i'r Scarlets.