Teyrngedau i ddau ddyn wedi gwrthdrawiad farwol Y Fenni

Lee Fox a Jordon Thomas Image copyright Heddlu Gwent
Image caption Bu farw Lee Fox a Jordon Thomas yn y gwrthdrawiad nos Wener

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy.

Bu farw Lee Fox, 35, a Jordon Thomas, 19, y ddau o ardal Y Fenni, yn y gwrthdrawiad ar 8 Ionawr ychydig cyn 23:00 ar y B4598 ger Hardwick.

Roedd pedwar o bobl yn teithio mewn Toyota Celica glas a Citroen C2 coch pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd partner Lee Fox, Kim Russell, ei fod yn "bartner cariadus, yn dad ac yn lysdad, ac yn gyfaill i lawer".

"Roeddet ti'n gwneud argraff ar bawb yr oeddet ti'n ei gyfarfod, bob tro yn barod i helpu a gyda jôc," meddai.

"Efallai dy fod wedi diflannu o'r golwg ond bydd yn ein calonnau am byth."

'Cyfeillgar, gweithgar a chariadus'

Wrth roi teyrnged i'w mab, dywedodd Gary a Michaela Thomas bod Jordon, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Jordon Bell, yn ddyn "cyfeillgar, gweithgar a chariadus".

"Bydd colled amdano am byth a bydd yn ein calonnau am byth... Gall neb gymryd ei le."

Cafodd dau ddyn, 20 a 24 oed, eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus. Mae'r ddau wedi eu rhyddhau ar fechniaeth.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw ar 101.

Straeon perthnasol