Seiclwr yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad tractor

Hope Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Penarlâg yn ardal Yr Hob

Mae seiclwr wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad gyda thractor yng ngogledd Cymru.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn Yr Hob ger Wrecsam am tua 11:35 ddydd Llun.

Dywedodd yr heddlu bod y beiciwr wedi cael anafiadau difrifol ac wedi ei gludo i Ysbyty Stoke.

Mae un lôn ar Ffordd Penarlâg ar agor, ac mae rhybudd i deithwyr ddisgwyl oedi.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth a dylai unrhyw un welodd y digwyddiad gysylltu ar 101.