Rwy'n dysgu...

Gari Bevan: Dysgwr y flwyddyn 2015
Image caption Gari Bevan: Dysgwr y flwyddyn 2015

Trwy gydol yr wythnos hon 25-29 Gorffennaf mae'r Post Cyntaf ar Radio Cymru yn ein cyflwyno i'r unigolion sydd ar restr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Ydych chi'n awyddus i ddysgu yn fwy rhugl er mwyn gallu darllen Cymru Fyw heb gymorth Vocab?

Mae 'na sawl ffordd o fynd ati i ddysgu'r iaith. Fe glywodd Cymru Fyw am brofiadau tri sydd wedi mynd ati i ddysgu 'iaith y nefoedd' gan ddefnyddio dulliau hollol wahanol:


Gari Bevan - Dysgwr y Flwyddyn 2015

Ges i fy ngeni a fy magu ym Mhontypridd a 'nes i ddechre dysgu Cymraeg oherwydd fod gweddill y teulu'n siarad Cymraeg a ro'n i'n teimlo bach yn annifyr fod pawb yn gorfod siarad Saesneg adre o achos fi.

Wnes i ddechrau dysgu yn nosbarth Rob Hughes ym Meddllwynog, a mynd i wersi yn rheolaidd. Roedd 33 yn y dosbarth yn y dechrau a ro'n i'n mynd adre o'r dosbarth yn brifo. Nid fy mhen oedd yn brifo gyda'r holl eiriau newydd ond fy ochrau, o chwerthin gymaint. Roedd e'n lot o hwyl. Ond dyw dysgu Cymraeg ddim yn hawdd.

Ar ôl pedair blynedd roedd 20 wedi gadael y dosbarth ond erbyn hyn, dim ond rhyw ddau neu dri sy'n siarad yn rhugl. Mae'n broblem enfawr codi o safon canolig i safon uwch.

Mae llawer yn medru cyrraedd hanner ffordd at fod yn rhugl ond mae rhywbeth yn stopio pobl rhag cymryd y cam nesaf i safon uwch. Maen nhw'n colli diddordeb. Cofiwch, ro'n i'n lwcus oherwydd bod fi'n medru ymarfer adre gyda'r teulu.

Cofiwch, ar y dechre', doedd hi ddim yn hawdd. Roedd Sian [fy ngwraig] a fi wedi arfer siarad yn Saesneg â'n gilydd, ac roedd hi'n anodd, anodd iawn.

Ti'n teimlo mor anghyfforddus a mor nerfus ac o'n ni'n troi i Saesneg lot, ac ro'dd na fisoedd pan o'n ni ddim yn siarad Cymraeg gyda'n gilydd. Ond nawr, ni wedi dod trwyddi a ni'n berffaith gyfforddus.

Roedd hi'n rhwyddach dysgu drwy siarad â'r plant. Roedden nhw'n dysgu yn yr ysgol a ddim yn chwerthin os fydden ni'n gwneud camgymeriadau ac felly ro'n i yn fwy cyfforddus yn siarad â nhw. Ry'n ni i gyd erbyn hyn yn sgwrsio ac yn byw ein bywydau yn Gymraeg. Dweud y gwir, nawr mae'n anodd dychmygu siarad Saesneg gartre.

Erbyn hyn, rwy'n ddigon ffodus i fedru byw drwy'r Gymraeg. Rwy'n gweithio yng Nghanolfan Soar ym Merthyr fel rheolwr adeilad, felly mae'r iaith mor bwysig ag unrhywbeth yn fy mywyd ar hyn o bryd. Mae dysgu'r iaith wedi newid fy mywyd.


Image caption Lidia Lammardo

Lidia Lammardo - Dysgu o bell

Rwy'n wreiddiol o Buenos Aires yn yr Ariannin ond yn awr yn byw yng Ngogledd Iwerddon ers rhyw 10 mlynedd.

Roeddwn yn gwylio'r rhaglen Dr Who am y tro cyntaf a sylwais ar ddiwedd y rhaglen fod y gair Cymru'n ymddangos ar ôl enw'r BBC. Cymru? Cymru? Beth yw Cymru meddyliais, a dyna oedd dechrau fy nhaith tuag at y Gymraeg.

Wnes i ddeall ar ôl ychydig taw BBC Wales oedd BBC Cymru a mi wnes i sylweddoli fy mod i wedi bod i'r Alban, wedi byw a gweithio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond doeddwn i'n gwybod dim am Gymru.

Felly wnes i ymweld â'r wlad fel tourist go iawn, ac yn syth nes i fethu cael Cymru allan o'm sustem.

Doedd bod yn ymwelydd ddim yn ddigon, ro'n i am ddod yn gyfarwydd â chalon y wlad a'r pobl, ac rwy'n credu'n gryf taw'r unig ffordd i ddod i nabod enaid cenedl yw thrwy ei hiaith.

Felly es i ar-lein a dod ar draws cwpwl o gyrsiau a gyda lot o waith dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy' wedi dechrau deall yr iaith yn well.

Peidiwch â dechrau gan feddwl ei bod hi'n mynd i fod yn hawdd... dyw hi ddim. Mae'r Gymraeg yn iaith gyfoethog sydd wedi datblygu ac esblygu dros genedlaethau, felly mae'n bwysig cadw ffocws a pheidio â cholli calon pan chi'n methu deall rhywbeth.

Gwnewch ymdrech i'w defnyddio cymaint â sy'n bosib, hyd yn oed mewn sgyrsiau elfennol iawn... hyd yn oed os defnyddiwch chi ond cwpwl o eiriau mewn brawddeg, oherwydd mae pobl yn gweld yn syth eich bod chi'n gwneud ymdrech i ddysgu'r iaith, a mae'n wirioneddol yn ffordd at eu calonnau.

Mae fy nghalon yn teimlo ei bod hi gartre a rwy'n mwynhau bod yng Nghymru, ac mae'r iaith yn rhan bwysig o'r teimlad. Dim rhywbeth i'w dysgu fel darn o wybodaeth yw iaith, mae'n rhywbeth byw i'w fwynhau.


Image caption Meic Palmer: "Mae dysgu Cymraeg wedi gadael i fi gyfathrebu a mwynhau cwmni llwyth o bobl wych a diddorol mewn ffordd na fuasai'n bosibl heb y Gymraeg"

Meic Palmer - 'Wlpan yn allweddol'

Cefais fy ngheni a fy magu yn Solihull ger Birmingham. Mi wnes i benderfynu dysgu Cymraeg ar ôl i mi gyfarfod fy ngwraig. Roedd ei thad yn frodor o Lithfaen ym Mhen Llŷn ac yn frwd dros y Gymraeg. Felly meddyliais y byddai'n llawer gwell i mi ennill iaith yn hytrach na'r teulu yn gorfod siarad Saesneg efo fi.

Ond mae cael eich ysgogi yn un peth, mae medru dilyn ymlaen a gweithredu yn fater arall. Yn hyn o beth roedd mynd yn ôl i astudio am radd yn allweddol.

Cefais gyfle i fynd ar gwrs Wlpan am wyth wythnos yn ystod y gwyliau Haf yn fy mlwyddyn gyntaf, gyda'r Brifysgol yn talu am gost y dysgu a chostau byw.

'Dwi'n ymwybodol iawn pa mor freintiedig oeddwn i, nid yn unig i gael y cyfle, ond hefyd i gael criw gwych o diwtoriaid fel Cefin Campbell a Carolyn Iorwerth.

Roedd eu gallu arbennig i ddysgu'r iaith yn cyd-fynd â brwdfrydedd, ac yr egni yn wyrthiol.

Fel rhywun nad oedd wedi cael hwyl arni o gwbl wrth geisio dysgu Sbaeneg yn yr ysgol, roedd dull Wlpan yn agoriad llygaid ac yn agoriad i'r meddwl. Dim gramadeg, dim ysgrifennu, dim ond gwrando, talu sylw ac ail adrodd.

Erbyn i fi fynd yn ôl i'r coleg yn yr Hydref, 'roeddwn yn gallu cynnal sgwrs syml efo'r myfyrwyr Cymraeg oedd yn fy nabod (ac oedd yn ddigon clên ac amyneddgar i roi i fyny efo fi yn gwneud traed moch o'u hiaith).

Rwy'n ymwybodol iawn nad ydy llawer o bobl mewn sefyllfa i efelychu yr hyn wnes i, ac hefyd nad yw cyfleoedd fel y ges i ar gael bellach. Dwi'n methu deall pam nad yw Wlpan ddim wedi cael mwy o broffil dros y blynyddoedd.

Dwi'n credu y dylid wedi adeiladu ar Wlpan fel y ffordd o ddysgu Cymraeg (ac unrhyw iaith arall o ran hynny). Roedd hi'n siom fawr i mi i ddarganfod bod ein plant yn dysgu ieithoedd tramor yn yr ysgol yn yr un ffordd ac ro'n i pan fethais i a dysgu Sbaeneg.

Mae hyn yn drueni, gan fod dysgu Cymraeg wedi gadael i fi gyfathrebu a mwynhau cwmni llwyth o bobl wych a diddorol mewn ffordd na fuasai'n bosibl heb y Gymraeg.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.