£4.2m yn fwy i gynlluniau llifogydd

Ton enfawr yn dod dros amddifynfeydd ym Mhorthcawl yn ystod llifogydd yn 2014 Image copyright AP
Image caption Ton enfawr yn dod dros amddifynfeydd ym Mhorthcawl yn ystod llifogydd yn 2014

Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant wedi cyhoeddi y bydd 'na £4.2 miliwn yn rhagor ar gyfer dwy gymuned sydd wedi'u taro gan lifogydd.

Bydd yr arian ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 er mwyn cwblhau cynlluniau amddiffynfeydd yn Nhrebefered, Bro Morgannwg, a Phorthcawl.

Mae hyn yn ogystal i'r £3 miliwn a gafodd ei gyhoeddi fis Rhagfyr diwetha' ar gyfer gwaith yn Llanelwy. Bydd y gwaith hwnnw hefyd yn cychwyn yn y flwyddyn ariannol newydd.

Mae'r cynllun £1.96 miliwn yn Nhrebefered yn cynnwys ardal sydd wedi gorlifo yn rheolaidd yn y blynyddoedd diwetha'. Y gobaith ydy lleihau'r risg i 17 o gartrefi a busnesau, ynghyd â gwelliannau i gyfleusterau'r ardal. Bydd y cynllun yn cael ei adeiladu ochr yn ochr â phrosiect sydd eisoes wedi'i gyflwyno yn Llanmaes.

Ym Mhorthcawl, bydd £2.25 miliwn yn cael ei wario ar welliannau i amddiffynfeydd arfordirol ger Heol y Traeth. Mae'r amddiffynfeydd presennol yn hen erbyn hyn, a petai nhw'n methu, byddai'n peryglu dros 260 o adeiladau ar hyd glan y môr ac yng nghanol y dre'.

Image copyright Sara Gibson
Image caption Mae canol pentre' Trebefered, ym Mro Morgannwg, wedi'i tharo gan lifogydd, gan gynnwys ym mis Rhagfyr 2012, pan gododd lefel y dŵr mewn munudau

'Blaenoriaeth'

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bwriad y gwaith fydd lleihau effeithiau llifogydd arfordirol a newid hinsawdd, yn ogystal â rhoi gwell mynediad a gwedd i ardal sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr.

Meddai'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant: "Rydyn ni wedi gweld y mis Rhagfyr gwlypa' ar gofnod a llifogydd ar draws Cymru. Dyma pam fod rheolaeth llifogydd a risg arfordirol yn parhau'n flaenoriaeth. Ar ddiwedd mis Rhagfyr fe wnes i addo £1 miliwn i awdurdodau lleol i gynnal gwaith atgyweirio ar frys i gynlluniau afonydd a systemau draeniad. Daeth hwb arall yr wythnos ddiwetha' wrth i'r Prif Weinidog gyhoeddi £2.3 miliwn yn ychwanegol ar gyfer rheoli risg llifogydd.

Fe ddiolchodd y Gweinidog i'r rhai hynny oedd wedi ymateb ac wedi helpu'n dilyn y llifogydd diweddar, sydd wedi "gweithio'n ddiflino ers Dydd San Steffan ac sy'n parhau i wneud hynny".

Ychwanegodd: "Mae awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru'n parhau i asesu'r difrod a'r effeithiau.

"Ond rydyn ni eisoes yn ymwybodol o lifogydd yn ardaloedd Gwynedd, Môn, Caerffili a Sir Benfro. Yr amcangyfri' ar hyn o bryd yw bod 150 o adeiladau ar draws Cymru wedi diodde' yn sgil llifogydd yn ystod mis Rhagfyr, gyda nifer yn rhagor wedi cael dihangfa lwcus."

Image caption Staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar amddiffynfeydd yn Llanelwy yn ddiweddar
Image copyright Chris Gale
Image caption Mae'r môr yn aml yn arw yn ardal y goleudy ym Mhorthcawl