Bil Cymru: Apelio ar ysgrifennydd Cymru i wneud newidiadau

senedd

Mae aelodau cynulliad wedi apelio at feddwl agored ysgrifennydd Cymru ynghylch ei gynlluniau i ddatganoli mwy o rym i Fae Caerdydd.

Bwriad Stephen Crabb ydi newid y system dros bwy sy'n gyfrifol am ba bwerau rhwng San Steffan a'r Cynulliad.

Mae cynigion y Ceidwadwr yn rhan o fesur drafft Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau i roi pwerau dros egni, trafnidiaeth ac etholiadau i'r Cynulliad.

Bu aelodau cynulliad yn trafod y bil ddydd Mercher wedi beirniadaeth ei fod yn rhy gymhleth.

Pryder rhai yw y byddai'n lleihau pwerau'r Cynulliad.

Fe agorodd cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiadol y ddadl yn y Senedd gan ddweud y byddai'r cynigion yn arwain at "ddeddfwriaeth Gymreig yn cael ei weithredu mewn awyrgylch o ansicrwydd llwyr".

Ychwanegodd David Melding: "Byddai'r mesur drafft Cymru yma, wrth groesawu rhai elfennau, ddim mewn unrhyw gyflwr i dderbyn consensws.

"Dydyn ni ddim yn credu y dylai fynd yn ei flaen nes ei fod yn cael ei ddiwygio'n sylweddol."

Image caption Mae disgwyl i Stephen Crabb wneud newidiadau i fil drafft Cymru

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams: "Rydym angen amser ac mae'n ymddangos fod meddwl agored yr ysgrifennydd gwladol yn barod i fynd i'r afael gyda'r gwendidau yn y bil drafft."

Asgwrn y gynnen ydi'r cynllun i gyflwyno system ddatganoli o bwerau wedi'u cadw.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:

"Mae gan Blaid Cymru lawer o bryderon am Fesur Cymru, ac yr wyf wedi datgan yn glir wrth yr Ysgrifennydd Gwladol na allwn ei gefnogi ar ei ffurf bresennol.

"Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dweud yn glir fod angen cryfhau'r Mesur hwn yn sylweddol cyn iddo gael cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n falch fod aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol o bob plaid wedi siarad ag un llais heddiw ac wedi gwrthod Mesur Cymru annigonol Llywodraeth y DG.

"Mater i Lywodraeth y DG yn awr yw rhoi i Gymru y setliad mae'n haeddu. Bydd Plaid Cymru yn cynnig y dylai'r Cynulliad barhau i flocio unrhyw fesur drafft sy'n trin Cymru yn eilradd o gymharu â'r gwledydd datganoledig eraill."

Byddai'r drefn yma yn rhestru meysydd polisi sy'n cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU, fel amddiffyn a materion tramor, gan ragybdio fod popeth arall wedi ei ddatganoli.

Ond mae pryder y bydd gormod o bwer yn parhau yn nwylo San Steffan ac y byddai rhaid i weinidogion yn Llundain rhoi caniatad i rai deddfwriaethau datganoledig.

Dywedodd Mr Crabb ei fod yn disgwyl gwneud newidiadau mawr i'r bil cyn iddo ddod yn ddeddf.