Sheridan yn gadael Casnewydd

BBC Image copyright Huw Evans picture agency

Mae rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, John Sheridan, wedi gadael y clwb.

Dydd Mawrth, cafodd clwb Oldam ganiatâd i siarad â Sheridan, a daeth cadarnhad brynhawn dydd Mercher ei fod yn mynd yno'n rheolwr.

Nid dyma'r tro cyntaf i Sheridan reoli Oldam. Fe oedd wrth y llyw rhwng 2006 a 2009, a chyn hynny, bu'n chwarae i'r tîm.

Ym mis Hydref 2015 y cafodd ei benodi'n rheolwr ar Gasnewydd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Casnewydd wedi ennill pum gêm allan o 17.

Wrth adael Casnewydd, dywedodd Sheridan: "Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Gasnewydd am ddelio â'r sefyllfa'n broffesiynol."