Cymru 2016: Geraint Tudur

geraint tudur Image copyright Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Mae Cymru Fyw wedi mynd ati i holi rhai o wynebau cyfarwydd Cymru fel rhan o gyfres o erthyglau arbennig ar ddechrau blwyddyn newydd.

Y Parchedig Dr Geraint Tudur yw Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, a cyn hynny bu'n weinidog yn Eglwys Ebeneser yng Nghaerdydd am dros bymtheg mlynedd.

Yma, mae un o arweinwyr Cristnogol mwyaf blaenllaw Cymru yn rhannu ei farn gyda Cymru Fyw, yn yr ail o'r gyfres 'Cymru 2016' sy'n rhedeg drwy gydol mis Ionawr, ac yn trafod crefydd heddiw:


Colli cysylltiad

Mae gennym ni ddau ddiwylliant Cristnogol sydd gyfochrog â'i gilydd. Yr elfen draddodiadol sy'n cael cefnogaeth y bobl hŷn, a'r ochr fwy newydd sy'n ennyn diddordeb y bobl ifanc.

Lle mae'r syniad o enwadaeth a thraddodiad yn bwysig i'r bobl hŷn, yr hyn sy'n bwysig i bobl ifanc ydi sylwedd y ffydd ei hun. Dyma ydy'r her - trio gofalu am y diwylliant hŷn, gan gynnwys yr holl adeiladau 'ma sydd wedi gwagio, ac wedyn yr ochr arall fwy ifanc, fwy bywiog. Dydi hi ddim bob amser yn hawdd cadw'r cydbwysedd yna.

Mae pobl ifanc yn llawer mwy hyblyg - mynd i bethau sy'n cael eu cynnal gan wahanol sefydliadau. Yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw ydy bod y neges yn glir, bod 'na frwdfrydedd, a bod 'na elfen gymdeithasol iddo fo.

Yn y gorffennol, mae'n capeli ni wedi colli cysylltiad efo'u cymunedau. Maen nhw'n bodoli yn y gymuned, ond dydi pobl ddim yn gwybod be' sy'n mynd ymlaen yn y capel, ac yn fras, dydi pobl yn y capel ddim yn cymryd diddordeb mewn be' sy'n digwydd yn y gymuned, felly maen nhw wedi gwahanu.

Image copyright Christian Williams
Image caption Cafodd y gwasanaeth olaf ei chynnal yng Nghapel Siloh yn Abertawe ar 10 Ionawr 2016. Dim ond chwech o aelodau oedd gan yr eglwys.

Be' mae eglwysi yn sylweddoli rŵan ydy bod hynny'n gamgymeriad a bod rhaid cymryd diddordeb yn y gymuned a dangos sut maen nhw'n gallu ffitio mewn, be' allen nhw ei gynnig.

Mae gweinidogion yn d'eud fod mwy o bobl wedi bod mewn gwasanaethau dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd yma nag ers blynyddoedd. Ma' hynny'n annisgwyl i fi.

Ond wrth gwrs, hwyrach ein bod ni'n cymryd pethau'n ganiataol heb sylweddoli. Ma' pobl yn gweld eu colli nhw, ac mewn amser mae pobl yn dueddol o droi yn ôl atyn nhw.

Y broblem fawr sy' gennym ni, efo'r holl adeiladau 'ma, y capeli, ydy eu bod nhw'n rhy ddrud i'w cadw. Mae'r rheiny rŵan fel baich i bobl y capeli. Chawn ni ddim newid llechan ar y to heb scaffolding. Felly hyd yn oed os yda ni'n gweld capeli yn cau, mae'n bwysig fod diddordeb ysbrydol dal mewn pobl.

Crefydd a'r cyfryngau

Mae pawb yn dychryn o weld be' sy'n digwydd, yn enwedig yng nghyd-destun y Dwyrain Canol. Mae'n hawdd iawn pwyntio bys at fudiad fel IS heb anghofio fod cyfnod yn yr oesoedd canol pan oedd Cristnogion yn gneud union yr un peth.

'Da ni'n gobeithio ein bod ni'n gw'bod yn well erbyn hyn. Ond dyna ydy'r broblem os ti'n cysylltu rhywbeth fel IS efo Mwslemiaeth. Tydi hi ddim yn bosib stampio unrhyw grefydd allan achos mwya'n byd rydach chi'n erlid pobl, mwya'n byd ma' pobl yn cal eu tynnu at y pethau 'ma.

'Da ni 'nôl yn y sefyllfa lle mae ganddoch chi glystyrau o bobl sy'n fawr eu dylanwad ac sy'n gallu gwneud i betha' ofnadwy ddigwydd, ac mae'n digwydd rŵan mewn Mwslemiaeth lle oedd o'n digwydd unwaith mewn Cristnogaeth. Mae'n affwysol o drist.

Mae'r cyfryngau yn gyffredinol yn eitha' negyddol ynglŷn â chrefydd. Mae'r diwylliant seciwlar yn cael ei wthio ym Mhrydain.

Maen nhw'n trio'n perswadio ni fod crefydd yn rhywbeth preifat, personol, 'dach chi fod i gadw i chi'ch hun a ddyla' chi ddim ei godi fo mewn sgwrs efo neb, ac os ydych chi, mi ydych chi'n ymddangos yn od.

Mae hwnna'n ddiwylliant sy' wedi cael ei greu gan y cyfryngau a dydi o ddim yn wir. Ma' crefydd yn gallu cysylltu pobl, pontio pobl, os ydi'r agwedda' cywir ganddyn nhw.

Image caption "Mae'r ffoaduriaid mewn angen, mae'n rhaid i ni eu helpu nhw am eu bod nhw'n bobl."

Argyfwng crefyddol byd-eang

'Da ni ddim yn gwahaniaethu rhwng pobl ar sail crefydd. Mae'r ffoaduriaid mewn angen, mae'n rhaid i ni eu helpu nhw am eu bod nhw'n bobl. Mae'n rhaid i'n llywodraeth ni 'neud llawer iawn mwy.

Petai'r bobl ym Môr y Canoldir, er enghraifft, yn wyn, yn Gristnogion ac yn siarad Saesneg, fysa 'run ohonyn nhw'n cael boddi. Ond dydyn nhw ddim yn wyn, dydyn nhw ddim yn Gristnogion, a mi 'da ni'n eu trin nhw'n wahanol. Bod yn hiliol ydi hynna.

Be 'da ni angen 'neud ydi cynnal ein tystiolaeth yn fywiog, a dangos be' sy'n dda mewn Cristnogaeth - heddychiaeth yn hytrach na gwrthdaro a phwyso ar arweinyddion i beidio gneud arian yn gynta' achos dyna ydi'r farchnad arfau - dim byd i 'neud efo be' sy'n iawn neu'n anghywir.

Ma' angen i bobl sylweddoli fod deialog yn gallu datrys petha' efo llai o dristwch na rhyfel. Ma' isio i ni beidio derbyn propaganda'r llywodraeth a'i militariaeth nhw.

Os ydy crefydd wedi dod yn broblem yn y byd, mae crefydd yn rhan o'r ateb. Ma' hynny'n bwysig i sylweddoli.

Y dyfodol

Tydi pobl fel arfer ddim yn licio newid ond mae'n rhaid i ni newid er mwyn goroesi fel Cristnogaeth.

Mae'n rhaid i ni fynegi'r ffydd mewn iaith sy'n ddealladwy, mewn ffordd mae pobl yn medru uniaethu, a 'da ni wedi methu gneud hynny. Dyna ydi'r her a'r sialens i ni - derbyn yr angen am newid.

'Da ni'n dal i ganu emynau'r ddeunawfed ganrif. Does 'na'm byd o'i le efo'r rheiny, maen nhw'n hardd a dwi'n licio nhw fy hun, ond mae isio i ni greu ein caneuon ein hunain. Mae isio i ni ddysgu i fynegi ein Cristnogaeth mewn iaith ddeniadol i bobl a pheidio bod yn swil, peidio bod yn negyddol.

Cwymp cynulleidfa'r capeli

Mae llai na deg y cant ohonom ni yn addoli'n rheolaidd. Mae cyflwr Cymru'n waeth na Lloegr, a dwi'n meddwl bod ni'n waeth na'r Alban hefyd.

Mae 'na wreiddiau hanesyddol iddo fo ond y prif beth ydi ein bod ni wedi colli cysylltiad efo'n cymunedau. Unwaith mae aelodau capeli yn cymryd diddordeb yn eu cymuned, mae'r gymuned yn cymryd diddordeb ynddyn nhw - mae'n gweithio dwy ffordd.

Image copyright Thinkstock
Image caption Ydy hi'n bosib denu addolwyr ifanc i lenwi seddi gweigion ein capeli?

Os oes 'na sefyllfa lle mae plentyn lleol angen triniaeth, nid y capel sy'n codi arian ond y bobl yn y gymuned. Pam? Pam nad ydy Cristnogion ddim yn d'eud 'mae 'na angen yn fama a dyma i chi rywbeth fedrwn ni wneud efo chi'? Mae o'n dir cyffredin fedrwn ni gyd weithio arno fo.

Ella 'neith pobl eraill ddim cytuno efo popeth rydan ni yn ei gredu, ond nid dyna'r pwynt. Y pwynt ydy ein bod ni wedi cydweithio efo pobl eraill am fod 'na angen. A than 'neith eglwysi ddechrau meddwl fel'na, maen nhw'n mynd i gario 'mlaen i fynd yn wannach ac yn wannach.

Straeon perthnasol