Disgwyl cyfnod 'cyffrous' i Ganolfan Grefft er pryderon

canolfan grefft rhuthun Image copyright Wikimedia

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynnu bod cyfnod cyffrous i ddod i Ganolfan Grefft Rhuthun er gwaethaf pryderon yn dilyn dau gyhoeddiad ym mis Rhagfyr.

Fe wnaeth dau o artistiaid y safle adael eu stiwdios, ac fe ddatgelwyd bod caffi'r ganolfan yn cau oherwydd pryderon ariannol.

Fe ddywed y cyngor bod pedwar cwmni wedi mynegi diddordeb mewn ailagor y caffi, a bod nifer y bobl sy'n ymweld â'r ganolfan wedi cadw'n gyson ar tua 80,000 y flwyddyn.

Er hynny mae honiad y cyngor bod yr artistiaid unigol wedi gadael "am resymau personol" yn unig yn cael ei herio gan un o'r artistiaid, sy'n mynnu bod rhent uchel a diffyg ymwelwyr yn ffactorau pwysig yn ei benderfyniad i adael.

Fe ddywed yr unig artist sy'n dal ar y safle yn barhaol, Cefyn Burgess, y bydd rhaid iddo ystyried dros y misoedd nesaf ai'r ganolfan yw'r "lle gorau i fod er mwyn datblygu ei fusnes ymhellach" er ei fod yn parhau i ffynnu yno ar hyn o bryd.

Llai o ymwelwyr?

Image caption Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones bod y cyn-denantiaid wedi gadael "ar dermau da" ac am resymau busnes

O safbwynt cabinet y cyngor mae Canolfan Grefft Rhuthun yn rhan o faes llafur y Cynghorydd Huw Jones. Gwadodd bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng:

"Fe gawsom 80,000 o ymwelwyr y llynedd. Fe gawsom 5,500 yn mynd yno fis diwethaf yn unig - dim ond ychydig gannoedd yn llai na mis Rhagfyr arferol."

Ond mae un o'r tenantiaid a adawodd y safle, y cerflunydd Neil Dalrymple, yn gwrthod hynny gan ddweud:

"Roeddwn i wedi gobeithio aros am ddwy flynedd arall o leia', ond fe ddaeth yn fwyfwy amlwg na allwn barhau yno oherwydd roedd y rhent yn rhy uchel a nifer yr ymwelwyr yn rhy isel."

Mae'n chwilio am gartref arall ar hyn o bryd.

Image caption Dywedodd Cefyn Burgess y bydd yn ystyried yn ofalus os yw am aros yn y ganolfan

Fe symudodd Cefyn Burgess - yr artist tecstilau - ei fusnes o Wynedd yn 2008 pan ail-agorodd y ganolfan yn dilyn cynllun ailwampio sylweddol.

Dywedodd: "Mae'n drist ein bod wedi cyrraedd sefyllfa lle mae dau o'r busnesau wedi mynd, ac yn y diwedd bod y caffi wedi rhoi'r gorau iddi hefyd.

"Rwy'n dal yn hapus i fuddsoddi a thyfu ar y safle, ond rwy'n credu bod effaith y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr wedi bod yn drwm ar y lleill.

"Mae hi wedi bod yn dda bod yma, ond mae'n rhaid i rywun ystyried a yw'n lle da i fod er mwyn datblygu ymhellach oherwydd yr ansicrwydd am beth fydd yn digwydd i'r unedau eraill.

"Mae hynny'n rhywbeth y bydd rhaid i mi ystyried dros y misoedd nesaf."

Image caption Pencadlys Cyngor Sir Ddinbych

Mae nifer o unigolion sy'n rhedeg busnesau yn siroedd Dinbych a Chonwy wedi dweud wrth BBC Cymru bod ymholiadau i rentu unedau yn y ganolfan heb gael ymateb brwdfrydig, ac wedi eu gadael yn teimlo nad oedd croeso i'w math nhw o waith.

Ond roedd dirprwy gyfarwyddwr y ganolfan Jane Gerrard yn gwadu hynny gan ddweud:

"Yn amlwg byddwn yn chwilio am bobl sydd ag elfen o safon yn eu gwaith, ond dydy o ddim yn fater o gael cymhwyster arbennig mewn celf gain. Mae'n fater o gael pobl sy'n frwdfrydig am eu gwaith a'u crefft.

"Mae pethau'n newid, ac fe fyddan nhw wastad yn newid - dyna natur y ganolfan. Rhaid i ni fod yn hyblyg ac edrych ar yr holl gyfleoedd."

Ailagor caffi 'erbyn y Pasg'

Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Jones bod pedwar artist wedi mynegi diddordeb mewn rhentu stiwdios gwag, a bod pedwar cwmni arall â diddordeb mewn rhedeg y caffi.

Mae'r cyngor yn gobeithio ailagor y caffi erbyn y Pasg.

Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn derbyn grant refeniw blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru - £387,684 am y flwyddyn ariannol bresennol sydd ychydig yn llai na'r £396,000 a gawson nhw yn 2014/15.

Cyfraniad y Cyngor Sir am y flwyddyn hon yw £80,895.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru nad yw'r arian yn ddibynnol ar gymal am y dewis o artistiaid sy'n defnyddio'r adnoddau:

"Mae hyn yn fater i Ganolfan Grefft Rhuthun yn unig, ond os fyddai'r ganolfan am newid y defnydd o stiwdios at bwrpasau eraill fe fyddai'n rhaid iddyn nhw ofyn ein caniatâd ni yn gyntaf."

Hefyd ar y BBC