Pŵer dros £400m o fudd-dal i Gaerdydd?

senedd

Fe allai cyfrifoldeb dros fudd-dal amlwg gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Prydain yn ystyried datganoli'r Lwfans Gweini (Attendance Allowance) - sy'n cael ei dalu i bobl dros 65 sydd ag anabledd ac sydd angen gofal.

Mae rhai elusennau'n poeni ynglŷn â be allai hynny olygu ar gyfer dyfodol y taliadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am weld mwy o fanylion ynglŷn â sut fyddai'n cael ei ariannu.

Trosglwyddo cyfrifoldeb

Mae tua 100,000 o bobl yng Nghymru'n derbyn y lwfans sydd werth tua £400 miliwn.

Mae pobl dros 65 sydd ag anabledd corfforol neu feddyliol ac sydd angen gofal yn gallu hawlio'r lwfans o £55.10 neu £82.30 yr wythnos, yn dibynnu ar faint eu gofynion.

Image copyright AFP

Fis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain eu bod yn mynd i ymgynghori ynglŷn â'r posibilrwydd o drosglwyddo cyfrifoldeb dros y lwfans i awdurdodau lleol yn Lloegr ac i Lywodraeth Cymru.

Fyddai unrhyw newid ddim yn effeithio ar daliadau pobl sydd eisoes yn derbyn y budd-dal.

Ond mae yna bryder ymhlith rhai elusennau ynglŷn â goblygiadau datganoli'r taliadau.

'Gweithio'n dda'

Yn ôl elusen Age Cymru, byddai cost gweinyddu'r drefn yn golygu bod yna lai o arian ar gael ar gyfer taliadau.

Pe bai'r budd-dal yn cael ei ddatganoli, fe allai Llywodraeth Cymru, yn ei thro, ddatganoli'r grym i gynghorau Cymru.

Dywedodd Beth Evans o elusen Gofalwyr Cymru bod y drefn yn "gweithio'n dda iawn ar hyn o bryd".

Ei neges i Lywodraeth Prydain meddai yw "gadewch y lwfans gweini fel mae e ar y funud".

"Dydy'r rhan fwyaf o bobl ddim yn mynd i'r gwasanaethau cymdeithasol. Maen nhw'n edrych ar ôl eu hunain a defnyddio'r arian fel maen nhw eisiau ei ddefnyddio", meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhannu'r pryderon a'u bod am weld mwy o fanylion ynglŷn â sut fyddai'n cael ei ariannu.

Yn ôl Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth Prydain, os yw'r grym yn cael ei ddatganoli fe fydd yna arian cyfatebol yn cael ei drosglwyddo hefyd.