Hwb i'r Gymraeg ar y we

Logo Wicipedia Cymraeg

Mae'n siwr bod nifer fawr ohonom ni sy'n defnyddio'r we wedi glanio o dro i dro ar un o dudalennau niferus y gwyddoniadur Wikipedia.

Sefydlodd yr Americanwr, Jimmy Wales, y wefan wreiddiol ar 15 Ionawr 2001, ac o fewn pum mlynedd roedd yna fersiynau ohoni hi i'w chael mewn dros 200 o ieithoedd - gan gynnwys y Gymraeg.

Cafodd gwefan Wicipedia Cymraeg ei chyhoeddi am y tro cyntaf ar 14 Gorffennaf 2003, ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn adnodd gwerthfawr gyda 62,161 o dudalennau'r diwrnod yn cael eu hagor ar gyfartaledd yn ystod 2012.

Mae Jason Evans yn gweithio fel Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol, a'i swydd yw annog mwy o bobl i gyfrannu i Wicipedia yn Gymraeg.

Ar ben hynny, mae'n ceisio sicrhau fod unrhyw adnoddau, gweledol neu ffeithiol sydd gan y Llyfrgell, ar gael i'w rhannu ar Wicipedia.

Ond mae'n medru bod yn waith anodd.

"Mae 'na ddiffyg hyder sy'n golygu fod pobl yn gyffredinol yn amharod i naill ai gyfrannu neu olygu erthyglau. Hefyd, mae diffyg hyder gan bobl i ddefnyddio'r dechnoleg.

Image caption Jason Evans

Golygathon

"Dyna pam ni'n trefnu digwyddiadau rheolaidd fel Golygathon y Wicipedia Cymraeg.

"Mae hyn yn gyfle i bobl sydd efallai â diddordeb mewn cyfrannu, ond heb yr hyder i wneud, i gyfarfod â golygwyr profiadol sydd wedyn yn medru rhannu gwybodaeth ar y broses."

Mae cywirdeb yn ffactor bwysig yn y model Wikipedia ac mae rhai o'r farn fod natur agored y tudalennau i gael eu golygu yn medru bod yn wendid.

Cywirdeb ffeithiau?

"Mae'n arfer da i beidio â newid neu olygu neu gyfrannu i erthygl oni bai fod yna rhyw sail bendant am y ffeithiau... rhywbeth fel llyfr sydd wedi'i gyhoeddi neu erthygl o wefan academaidd neu debyg, a bod y sail hyn yn cael ei nodi. Ac yn fras dyna hi.

"Mae'n bosib mewn egwyddor i rywun roi rhywbeth sydd yn anghywir, ond fyddai'n cael ei bigo lan a'i ddileu'n gyflym iawn."

Image copyright Wicipedia Cymraeg
Image caption Jason yn rhoi arweiniad i wirfoddolwyr Wicipedia Cymraeg mewn Golygathon

Statws y Gymraeg

Mae'r nifer o erthyglau Wicipedia Cymraeg yn amlwg o ddiddordeb ac o fantais uniongyrchol i ni yng Nghymru o ran darpariaeth gynhwysfawr yn yr iaith.

Ond mae'r nifer o erthyglau'n medru dylanwadu ar statws y Gymraeg mewn cyd-destunau eraill, fel yr esboniodd Jason:

"Os edrychwch chi ar dabl am safle'r Gymraeg o ran nifer o siaradwyr yn y byd, ry'n ni yn y 166fed safle, ond o ran nifer yr erthyglau Cymraeg ar Wicipedia, ry'n ni'n rhif 64.

"Mae statws ar-lein y Gymraeg felly'n cadarnhau'r ddelwedd fod yr iaith yn cael ei ddefnyddio'n gynhwysfawr ar y we. Pan ry'ch chi'n ystyried bod Apple, er enghraifft, yn cynnig rhyw 40 o ieithoedd fel opsiwn ar eu teclynnau, mae bod yn rhif 64 yn llawer iachach na rhif 166.

"Yn hyn o beth mae'r Gatalaneg yn enghraifft dda, sef iaith gyda rhyw naw miliwn o siaradwyr sydd â chymaint o erthyglau Catalaneg fel ei bod yn rhif 17 o ran nifer o erthyglau Wikipedia.

"Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad dybiwn ni fod yr iaith newydd gael ei derbyn fel iaith chwilio ar Google, sydd yn golygu fod defnyddwyr Catalaneg yn medru gofyn i Google ddewis a rhoi blaenoriaeth i erthyglau Catalaneg wrth chwilio.

"Dyma ddylai fod y nod i'r Gymraeg, a bydd presenoldeb cryf o ran niferoedd erthyglau ar Wicipedia'n gymorth i gyrraedd y nod honno."