Marwolaeth mam 25 oed: Ymddangosiad llys

Georgia Symonds Image copyright Wales News Service
Image caption Daeth yr heddlu o hyd i gorff Georgina Symonds ddydd Mercher

Mae dyn o'r Fenni wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio.

Mae Peter David Morgan, 53 oed, wedi'i gyhuddo o lofruddio Georgina Symonds, 25 oed.

Daeth yr heddlu o hyd i'w chorff am 05:50 fore Mercher ym Mrynbuga, Sir Fynwy.

Yn Llys Ynadon Casnewydd fore Gwener, fe gadarnhaodd Mr Morgan ei enw a'i gyfeiriad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys, ar 18 Ionawr.