Lagŵn Abertawe: Amheuon am agweddau peirianyddol y tyrbinau

lagwn

Mae amheuon wedi cael eu codi ynglŷn â pheirianneg sy'n rhan o brosiect £1bn i adeiladu lagŵn llanw ym Mae Abertawe.

Daw'r pryderon yn dilyn sylwadau'r Prif Weinidog, David Cameron, yn gynharach yr wythnos hon, pan wnaeth gyfaddef bod ei frwdfrydedd ar gyfer y math yma o egni wedi "lleihau".

Mae'r datblygwyr, Tidal Lagoon Power, yn gobeithio denu cymhorthdal fyddai'n talu £168 am bob awr o ynni a fyddai'n cael ei gynhyrchu, a hynny am 35 mlynedd.

Wrth ymchwilio i amheuon rhai peirianwyr, mae BBC Cymru yn deall fod ofnau am y gwaith modelu ar gyfer gosod 16 tyrbin yn y bae, ac am ba mor effeithiol fyddai'r dechnoleg ar gyfer harnesu pŵer o lanw a thrai'r môr.

Ond yn ôl Tidal Lagoon Power mae'r cwestiynau ynghylch y beirianneg a'r effaith amgylcheddol wedi cael eu hateb yn fanwl.

16 tyrbin

Y cynllun ydy adeiladu 16 tyrbin, filltir o'r arfordir, er mwyn cynhyrchu 320 megawat o drydan.

Yn ôl un cyn beiriannydd mecanyddol gyda Phrifysgol Abertawe, a chyn athro ym Mhrifysgol Califfornia, mae'n rhaid profi'r tyrbinau yn yr amodau cywir cyn sicrhau eu bod yn gallu gweithio'n effeithiol.

Dywedodd Roger Griffiths: "Yr hyn nad oes gennym ni ydy rhai o'r mesuriadau ymarferol o berfformiad y tyrbinau yma mewn amodau anodd - dyfnder y dŵr a defnydd o'r tyrbinau wrth i'r llif fynd i'r cyfeiriad arall pan mae'r llif yn dod mewn, o'r cefn i'r blaen. Dydyn nhw ddim yn addas i ymdopi gyda'r llif yn y cyfeiriad hwnnw."

Ychwanegodd yr Athro Griffiths: "Mae'r amcangyfrifon damcaniaethol yma'n iawn, ond maen nhw'n dyfalu am effeithiolrwydd y tyrbinau."

'Isel iawn'

Yn ôl Dr Bob Allen, cyn beiriannydd arall gyda Phrifysgol Abertawe, dywedodd bod rhagdybiaeth y byddai'r tyrbinau yn gweithio i'r un graddau gyda rhediad y llif yn mynd i'r ddau gyfeiriad.

"Ond dydi hynny ddim yn wir," meddai, "pan mae'r llif yn mynd i'r cyfeiriad anghywir mae'r effeithiolrwydd am fod yn isel iawn. Mae hynny'n rhagdybio eu bod am fod yn effeithiol drwy'r amser a dydi hynny ddim am ddigwydd."

Mae eraill yn cwestiynu'r modelu o asesu symudiad y dŵr o'r tyrbinau unwaith maen nhw allan yn y bae.

Image caption Mae'r Athro Roger Falconer yn cefnogi'r lagŵn ond mae'n dweud bod angen gwella rhai agweddau

Mae'r Athro Roger Falconer yn arbenigwr ar reolaeth dŵr o Brifysgol Caerdydd a dywedodd bod gan Gymru botensial anferth ar gyfer y llanw, ond mae'n amheus o'r modelu yn seiliedig ar lif y dŵr ym Mae Abertawe.

Er ei fod yn gefnogol i adeiladu'r morlyn, mae'n bwysig i'r lleoliad a'r dechnoleg fod yn gywir er mwyn tymheru cyflymder y dŵr a fydd yn rhedeg heibio'r tyrbeini.

"Po fwyaf o le sydd rhwng y tyrbinau, po fwyaf ydy'r posibilrwydd o leihau cyflymder y dŵr ac unrhyw ailgylchrediad," meddai'r Athro Falconer.

"Mae'n fater o gael y cydbwysedd cywir ac mae angen ei gael yn gywir cyn adeiladu mwy o lagwnau ynni."

Mae Tidal Lagoon Power yn hawlio bod cwestiynau ynghylch a'r gwaith peirianneg a'r effaith amgylcheddol wedi eu hateb mewn manylder.

Dywedodd llefarydd: "Lagŵn lanw Bae Abertawe yw'r cyntaf o'i fath yn y byd sy'n defnyddio technoleg sydd wedi ei brofi mewn ffordd newydd.

"Mae'r prosiect wedi cael caniatâd datblygu ac mae'r cynllun wedi ei ddilysu drwy ddyfarniad technegol annibynnol ar ran y llywodraeth a'r buddsoddwyr sy'n ei gefnogi.

"Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r sefydliadau ym meysydd peirianneg byd-eang, diwydiant ac adeiladu er mwyn paratoi'r cynllun i'w gael ei weithredu."