Saith Diwrnod

Catrin Beard

Catrin Beard sy'n trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

Fel rhan o gyfres o erthyglau arbennig ar ddechrau blwyddyn newydd mae Cymru Fyw wedi mynd ati i holi rhai o wynebau cyfarwydd Cymru.

Yr wythnos hon, y Parchedig Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr sy'n trafod crefydd yng Nghymru.

Yn ôl Geraint Tudur, mae gennym ni ddau ddiwylliant Cristnogol sydd gyfochrog â'i gilydd.

Yr elfen draddodiadol sy'n cael cefnogaeth y bobl hŷn, a'r ochr fwy newydd sy'n ennyn diddordeb y bobl ifanc.

Dyma ydy'r her - trio gofalu am y diwylliant hŷn, gan gynnwys yr holl adeiladau 'ma sydd wedi gwagio, ac wedyn yr ochr arall fwy ifanc, fwy bywiog.

Mae hefyd yn gresynu bod Cristnogaeth yng Nghymru wedi colli cysylltiad efo'i chymunedau.

Os oes na sefyllfa lle mae plentyn lleol angen triniaeth, nid y capel sy'n codi arian ond y bobl yn y gymuned. Pam? Pam nad ydy Cristnogion ddim yn deud "mae na angen yn fama a dyma i chi rywbeth fedrwn ni wneud efo chi"?

Ella neith pobl ddim cytuno efo popeth rydan ni yn ei gredu, dywed, ond nid dyna'r pwynt. Y pwynt ydy ein bod ni wedi cydweithio efo pobl eraill am fod na angen.

A than neith eglwysi ddechrau meddwl felna, maen nhw'n mynd i gario mlaen i fynd yn wannach ac yn wannach.

Image copyright Getty Images

Mae'r flwyddyn hon yn addo bod yn un fydd wrth fodd ffans chwaraeon, o bêl-droed yn Ewrop i'r Gemau Olympaidd.

Ond dyw Phil Stead yn Golwg ddim yn rhy hapus ar ôl derbyn ebost gan gwmni gwerthu tocynnau Ticketmaster, er bod y neges yn cynnig tocynnau i gemau'r Chwe Gwlad y mis nesaf.

Yr hyn oedd yn boen i Phil oedd bod y tocynnau'n costio hyd at £270 yr un.

Ers talwm, dywed, roedd y cyfle i gael prynu tocynnau i'r gemau mawr yn rheswm da dros ymuno â'r clwb rygbi lleol, ond bellach, drwy'r gwasanaeth hwn, mae'r Undeb Rygbi'n caniatáu i glybiau lleol ail-werthu tocynnau i godi arian - mewn ffordd, dywed Phil, mae'r Undeb yn cefnogi ticket touts.

Ydi, mae'r byd chwaraeon ar y lefel uchaf wedi newid.

Image caption Bethan Gwanas

Ar ôl chwe mis o fethu gyrru oherwydd triniaeth feddygol, mae Bethan Gwanas yn dechrau'r flwyddyn yn ôl y tu ôl i olwyn ei champyrfan, ac fel y dywed yn yr Herald, mae hi wrth ei bodd, yn enwedig o ddarllen bod ymchwil gan gwmni yswiriant yn dangos bod merched yn well gyrwyr na dynion.

Yn ôl yr ymchwil hwn, y gyrrwr gorau ydi dynes tua 46-50 oed efo plant sy'n byw yn East Anglia, yn gweithio fel peiriannydd meddalwedd ac yn gyrru Honda automatic coch, a'r gyrrwr gwaethaf ydi Albanwr 21-25 oed heb blant sy'n rheolwr ac yn gyrru Audi gwyn.

Does dim gwybodaeth benodol ar gael ar gyfer gyrwyr Cymru, ond mae Bethan yn reit siŵr mai gwragedd fferm tua 40-55 oed o Ddyffryn Conwy fyddai'r rhai mwya diogel, a dynion di-briod 20-30 o Sir Fôn, Bangor a Thregaron sy'n chwarae pêl-droed bob dydd Sadwrn fyddai'r rhai mwyaf peryglus.

Go brin neith neb ddadlau gyda hynna…

Ac ar ddechrau blwyddyn, wrth i ni edrych ymlaen a meddwl tybed beth sydd o'n blaenau, mae Iestyn Davies newydd ddod yn dad, a dwi'n dotio at ei asbri yn ei golofn wythnosol yn y Cymro lle mae'n dweud ei fod yn meddwl ei fod wedi darganfod beth mae bywyd amdan.

Dwi'n gallu gwerthfawrogi'r hyn mae'n ei olygu, dywed - bodoli'n gorfforol, arogli'r awel o anadl cyntaf bywyd, teimlo'r cynhesrwydd yn rheiddio o groen newydd-anedig.

Rwy'n barod i dderbyn y cyfrifoldeb o fod yn Dad! Wel llongyfarchiadau mawr i Iestyn, a phob hwyl i'r teulu bach i'r flwyddyn newydd.