Abertawe yn ennill apêl

Kyle Naughton Image copyright Rex Features
Image caption Fe welodd Kyle Naughton y cerdyn coch yn yr hanner cyntaf

Mae Abertawe wedi ennill eu hapêl yn erbyn y cerdyn coch gafodd ei ddangos i Kyle Naughton yn y gêm yn erbyn Sunderland nos Fercher.

Golygai hynny y bydd y gwaharddiad o dair gêm yn ei erbyn yn cael ei ddileu.

Fe gollodd Abertawe y gêm 4-2, gan olygu fod Sunderland wedi cau'r bwlch sydd rhyngddynt a'r Elyrch ar waelodion yr Uwchgynghrair.

Ar ôl y gêm dywedodd rheolwr Abertawe Alan Curtis fod y dyfarnwr, Graham Scott, "allan o'i ddyfnder yn llwyr" wedi iddo wneud sawl dyfarniad dadleuol.

Cafodd Naughton ei anfon o'r cae ar ôl tacl hanner cyntaf ar Yann M'Vila.

Bydd nawr ar gael i wynebu Watford nos Lun os fydd yn cael ei ddewis.