Rhybudd melyn am rew yn parhau

Rhew

Mae rhybudd melyn am rew gan y Swyddfa Dywydd yn parhau mewn grym fore Sadwrn.

Cafodd y rhybudd i fod yn "wyliadwrus" ei gyhoeddi ar gyfer y wlad i gyd, wrth i'r rhagolygon ddangos y byddai'r tymheredd yn disgyn yn bell o dan y rhewbwynt dros nos.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gall hynny achosi rhew ar ffyrdd a llwybrau beicio a cherdded.

Mae'r rhybudd swyddogol mewn grym tan 10:00.