Agor arddangosfa i gofio 35,000 o filwyr Cymru

Alfred William Thomas Image copyright Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Bydd modd i ymwelwyr ymchwilio i hanes y bobl sydd wedi eu rhestru yn y llyfr, fel Alfred William Thomas

Mae arddangosfa i gofio 35,000 o filwyr gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn agor ddydd Sadwrn.

Mae'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn adrodd hanes y Llyfr Cofio Cenedlaethol, a'r miloedd o ddynion a merched sydd a'u henwau ynddo.

Bydd y llyfr yn cael ei arddangos yn ogystal a fersiwn digidol newydd.

Mae'r unigolion sydd yn y llyfr wedi eu rhestru fesul catrawd a bataliwn, ochr yn ochr ag enwau'r rhai wnaeth oroesi.

Ond mae'r arddangosfa hefyd yn ceisio ymchwilio i themâu pellach fel rhan o gynllun pedair blynedd, Cymru Dros Heddwch.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Roedd y Preifat David Owen Roberts yn frawd i'r awdur Kate Roberts, a'i farwolaeth ef a brawd arall wnaeth ei hysbrydoli i ddechrau llenydda
Image copyright Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Bu farw'r Preifat Edward Hugh Evans dri mis ar ôl mynd i Ffrainc yn Ionawr 1918. Roedd yn 19 oed

Yn sgil yr arddangosfa, mae'r llyfrgell yn awyddus i ddysgu mwy am rai sydd wedi eu henwi yn y llyfr.

Un o'r rhain yw'r Preifat Trevor Lewis, aelod o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin.

Ar ôl cael ei eni yn Aberystwyth a mynd i Ysgol y Sir ac Ysgol Ardwyn, cafodd ei benodi'n llyfrgellydd dan hyfforddiant yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Awst 1912.

Ar 27 Hydref 1915 ymunodd â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Cafodd ei anafu'n wael yn Ffrainc ar 8 Awst 1916 a bu farw ar 20 Medi yn ugain oed.

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Mewn llythyr i'w fam, dywedodd y Capten David Jones: "Credaf ymhellach y buasai'n well gennych golli un mab na cholli'r holl deulu"
Image copyright Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Dyma oedd y neges i deulu David Jones i'w hysbysu ei fod wedi marw ar 12 Gorffennaf 1916 wedi brwydr Coed Mametz

Dywedodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Rwyf yn falch iawn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi medru cefnogi'r arddangosfa a'r gwaith arloesol o ddigido Llyfr y Cofio.

"Bydd y ddau yn sicrhau ein bod yn parhau i anrhydeddu'r aberth i'r rhai sydd wedi eu henwi yn y Llyfr ac ail ddweud eu straeon unigol."

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Yn ogystal â'r milwyr, mae rhai o hanesion y cyfnod yng Nghymru i'w gweld
Image copyright Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Dyma'r tro cyntaf i fersiwn digidol o'r llyfr fod ar gael i'w chwilio