Wolves 1-3 Caerdydd

Noone Image copyright Huw Evans picture agency

Craig Noone oedd seren Caerdydd wrth i'r Adar Gleision guro Wolves gyda thair gôl gampus yn Molineux.

Fe sgoriodd yr asgellwr ddwy yn yr hanner cyntaf i roi'r ymwelwyr ar y blaen cyn i Wolves gael un yn ôl drwy Michal Zyro.

Joe Ralls gafodd y drydedd i Gaerdydd yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth gyntaf tîm Russell Slade oddi cartref yn 2016.

Daw'r fuddugoliaeth yn dilyn wythnos gythryblus i'r Adar Gleision wedi i'r clwb gael eu cosbi am dorri rheolau Chwarae Teg Ariannol (FFP).