Caer Efrog 0-1 Casnewydd

casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Aaron Collins sgoriodd unig gôl y gêm i Gasnewydd yn erbyn Caer Efrog i roi'r dechrau perffaith i'r rheolwr newydd, Warren Feeney.

Fe aeth Dave Winfield a Vadaine Oliver yn agos i'r tîm cartref, ond fe sicrhaodd arbedion Mitchell Beeney y tri phwynt i'r ymwelwyr.

Mae'r fuddugoliaeth yn rhoi Casnewydd chwe phwynt yn glir o'r tri isaf yn y tabl yn Adran 2.

Cafodd Feeney ei benodi'n rheolwr Casnewydd yn dilyn ymadawiad John Sheridan i Oldham ddydd Gwener.