Tata: Diswyddo 750 o weithwyr dur ym Mhort Talbot

Port Talbot Image copyright PA

Mae cwmni Tata Steel wedi cadarnhau y bydd 750 o weithwyr yn colli'u gwaith yn eu ffatri ym Mhort Talbot.

Bydd 300 o weithwyr yn ffatrïoedd eraill y cwmni hefyd yn cael eu diswyddo, gan gynnwys Trostre ger Llanelli, Llanwern ger Casnewydd, Corby a Hartlepool.

Mae tua 4,000 yn gweithio ym Mhort Talbot ac mae Tata yn cyflogi 6,000 ledled Cymru a 17,000 yn y DU.

Yn ôl y cwmni, costau ynni uchel a dur rhad sy'n cael ei fewnforio o China sy'n bennaf gyfrifol am y penderfyniad.

Dywedodd Karl Koehler, prif weithredwr Tata yn Ewrop: "Mae'r cyhoeddiad yma yn hanfodol yn wyneb marchnad hynod anodd sy'n debyg o barhau am y dyfodol rhagweladwy.

"Rydym angen i Gomisiwn Ewrop frysio gyda'u hymateb i fewnforion annheg, ac i ymateb yn gadarnach. Byddai peidio gwneud yn bygwth dyfodol y diwydiant dur yn Ewrop gyfan.

"Er ein bod yn croesawu camau ymlaen ar gostau tanwydd yn y DU rhaid i'r llywodraeth weithredu ar frys i wneud y sector dur yn fwy cystadleuol - mae hyn yn cynnwys cwtogi trethi busnes a chefnogi achosion o effeithlonrwydd ynni."

Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar bwysigrwydd gwaith dur Port Talbot i Gymru a'r gymuned leol, wedi'r cyhoeddiad am y diswyddiadau.

Diwydiant dur: Colli swyddi

1,050

o weithwyr Tata yn colli eu swyddi.

750

o'r rhain o Bort Talbot a Llanwern.

  • 15 yn colli swyddi yn Nhrostre.

  • 200 o swyddi cefnogol yn cael eu colli dros y DU

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod y diswyddiadau yn ergyd fawr i'r gymuned ac i'r economi yn ehangach.

Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd Mr Jones bod y dur yn ddiwydiant strategol yn y DU a bod angen cynllun strategol.

Mae'r gweithlu yn un effeithlon iawn, meddai, ac mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i Tata, ond mynnodd bod dyfodol i'r diwydiant dur yng Nghymru a bod ei lywodraeth wedi dangos ymrwymiad i hynny.

Mewn datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd y Gweinidog Busnes Anna Soubry bod "pwysau byd eang digynsail" ar y diwydiant dur y tu hwnt i reolaeth y llywodraeth, ond y byddai'n gwneud popeth o fewn eu gallu i fod yn gefn i'r gweithwyr oedd yn wynebu colli'u gwaith yn ne Cymru a rhannau eraill o'r DU.

Dywedodd hefyd bod llawer o'r gefnogaeth a ellid ei roi i gwmni Tata yn gallu dod gan Lywodraeth Cymru, ond y byddai llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda nhw.

Ym mis Hydref, fe wnaeth Tata gyhoeddi y byddai 1,200 yn colli eu gwaith yn Scunthorpe a Lanarkshire.

Yn yr Eidal, mae'r llywodraeth yno wedi prynu rhan o safle dur mwya' wlad.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Carwyn Jones yn ymateb i'r newyddion am y diswyddiadau

Dadansoddiad Ellis Roberts, gohebydd BBC Cymru

Doedd y cyhoeddiad ddim yn annisgwyl - ond fe allai'r effaith fod yn ysgytwol. Mae 750 o swyddi'n nifer fawr ar unrhyw gyfri.

Mae Tata'n dweud nad oes ganddyn nhw ddewis, ac os ydy'r dyfalu eu bod yn colli £1m y dydd yn wir, yna roedd colli gwaith yn anochel ym Mhort Talbot.

Roedd Cymru wedi osgoi'r gwaetha' ohoni hyd yn hyn, ond nid felly heddiw. Fe fydd swyddi'n cael eu colli yn Llanwern ac yn Nhrostre hefyd, ond ym Mhort Talbot mae'r effaith fwyaf.

Fe allai fod wedi bod yn waeth eto - o leiaf dydyn ni heb glywed heddiw y bydd gweithfeydd yng Nghymru'n cau yn gyfan gwbl.

Mae Tata'n dweud eu bod yn cymryd y camau yma i roi gobaith i'r busnes barhau. Does dim sicrwydd mai hyn fydd ei diwedd hi felly, o ran colli gwaith.

Ond mae'r cwmni'n gwybod bod ganddyn nhw weithwyr a safle o safon ym Mhort Talbot. Mae'n ddigon drwg heddiw, ond fe allai mwy fod yn y fantol eto os na fydd y farchnad yn cryfhau.

Perchnogi?

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd llefarydd Plaid Cymru ac yr economi Rhun ap Iorwerth: "Er ein bod yn disgwyl y cyhoeddiad trist yma, mae'n newyddion ysgytwol i'r teuluoedd ym Mhort Talbot, Llanwern a Llanelli.

"Yr her nawr i Lywodraeth Cymru yw gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau effaith y cyhoeddiad.

"Mae Plaid Cymru wedi dweud beth y byddem yn hoffi ei weld... yn ogystal â chefnogaeth frys i'r rhai sy'n wynebu colli'u gwaith rydym am i Lywodraeth Cymru edrych ar BOB opsiwn i gefnogi'r diwydiant dur.

"Rhaid i hynny gynnwys ystyried perchnogi rhan o'r busnes gan fynd i bartneriaeth gyda Tata i warchod gweithwyr yn y cyfnod economaidd anodd yma.

"Dylai hynny fod yn ychwanegol i chwilio am gymorth ar ynni, trethi busnes a gweithredu ar lefel Ewropeaidd."

Image copyright PA
Image caption Baner undeb y tu allan i'r safle ym Mhort Talbot fore Llun

Fore Llun, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd wedi galw am ymyrraeth gan lywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd.

Dywedodd y Ceidwadwyr bod angen cynllun sy'n cynnwys gweithredu gan Ewrop, San Steffan a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem.

Yn y cyfamser mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, wedi rhoi'r bai ar anallu llywodraethau i gymryd camau i achub y diwydiant dur oherwydd rheolau Ewrop.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant yn ystod cyfnod "eithriadol o anodd".

Cyn-weithiwr

Image caption Bu Rod Williams yn weithiwr dur am 40 mlynedd

Bu Rod Williams yn gweithio ar safle dur Port Talbot rhwng 1962 a 2002, a dywedodd: "Ma' pethe wedi newid yn ddychrynllyd. Os bydde pobol odd yn gweithio na pan o'n i'n gweitho 'na yn gwbod be fydde'n digwydd, sai'n gwbod be fydde nhw'n dweud.

"Dros y 40 mlynedd fues i'n gweithio 'na fuodd na lot o ddiswyddo. O'dd hynna oherwydd bod y diwydiant yn newid, technoleg yn datblygu a bob tro nath y dechnoleg ddatblygu, o'n nhw ishe llai a llai o ddynion i weithio. Felly o'n ni lawr o 14,000 pan ddechreues i, i ryw 4,000.

"Pan i chi'n edrych ar y 750 sy'n cal eu diswyddo nawr, ma' fe'n eitha lot. Chi'n son am tua 20%. Ma hwnna'n mynd i gal lot o ddylanwad. Bydd e'n cal effaith yr holl ffordd lawr i Lanelli, ma' rhai o'r ardal na'n dod i Bort Talbot i weithio.

"Falle bod 'na rhyw 10,000 o gontractwyr yn dod mewn i weithio yn Tata, i wneud gwaith arbennig - a ma nhw'n cefnogi y bobol sy'n gweithio'n uniongyrchol i Tata. Os bydd rhyw ran o'r gwaith yn gorffen a 750 o weithwyr Tata cael eu diswyddo, allen i ddychmygu bod nifer fawr o'r rhai sy'n gweithio i gontractwyr yn mynd i golli swyddi hefyd."

Straeon perthnasol