Donaldson yn brifo'i law gyda llif

llaw Image copyright Twitter
Image caption Mae'n amlwg bod yr anaf angen nifer o bwythau

Mae'r seren golff Jamie Donaldson wedi anafu ei law mewn damwain gyda llif gadwyn.

Fe gyhoeddodd y Cymro - a gipiodd y pwynt i ennill Cwpan Ryder i dîm Ewrop yn 2014 - lun o'i law ar ei gyfrif Twitter dydd Llun, sy'n dangos yr anaf i'w fys bach.

Roedd neges gan y golffiwr 40 oed o Bontypridd yn dweud: "Felly yn ystod amser hamdden fe wnes i benderfynu cwffio gyda llif gadwyn... a cholli!"

Mae'r llun yn dangos yn glir bod angen nifer o bwythau arno, ond credir na fydd yn cadw Donaldson allan o'r gamp am hir.

Y gred yw y bydd yn dychwelyd ar gyfer cystadleuaeth y Dubai Desert Classic ar 4 Chwefror.

Roedd i fod i chwarae yn Abu Dhabi yr wythnos hon ond ni fydd yn gwneud hynny.

Image copyright Getty Images