Abertawe 1- 0 Watford

Abertawe Image copyright PA

Mae Abertawe wedi llwyddo i gael tri phwynt holl bwysig yn sgil buddugoliaeth yn erbyn Watford.

Y capten Ashley Williams gafodd y gôl a hynny ar ôl 27 munud ac mi oedd perfformiad y clwb yn ystod yr hanner cyntaf yn un cryf.

Mi darodd Watford nôl yn yr ail hanner ac mi gynyddodd y pwysau wrth i Miguel Britos a Jose Manuel Jurado bron a gwneud y sgor yn gyfartal.

Mi fuodd bron i'r Elyrch gael ail gôl ond hitio'r postyn wnaeth Bafetimbi Gomis yn y diwedd.

Dyma efallai fydd gêm olaf Alan Curtis. Ond mae'r tîm wedi sicrhau ei bod nhw nawr allan o'r tri safle isaf yn uwch gynghrair Lloegr.