Casnewydd 1-2 Blackburn

Jordan Rhodes Image copyright Rex Features
Image caption Rhodes yn sgorio'r gôl fuddugol

Er bod Blackburn ddwy adran yn uwch na Chasnewydd mi fydd Yr Alltudion yn hynod o siomedig na lwyddon nhw i sicrhau gêm ail chwarae o leiaf ar ôl gêm llawn digwyddiadau ar Rodney Parade.

Ar ôl i'r Blackburn fynd ar y blaen ar ôl 7 munud diolch i gic o'r smotyn Ben Marshall - fe welodd yr ymosodwr Chris Brown y cerdyn coch am dacl flêr ar Medy Elito felly bu'n rhaid iddyn nhw chwarae y rhan fwyaf o'r gêm efo 10 dyn.

Fe ddaeth Mark Byrne â Chasnewydd yn gyfartal efo chwip o gôl cyn yr egwyl. Ond er eu bod nhw chwaraewr yn brin Blackburn sgoriodd yr unig gôl yn yr ail hanner diolch i beniad Jordan Rhodes o groesiad y Cymro Tom Lawrence.

Ac i rwbio halen yn y briw fe welodd golwr Casnewydd Joe Day y cerdyn coch yn yr eiliadau olaf ar ôl iddo faglu Craig Conway tu allan i'w gwrt cosbi.

Mae'r canlyniad yn golygu bod pob un o glybiau Cymru allan o Gwpan FA Lloegr y tymor yma.