Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Aled Davies yng ngharfan Cymru

Aled Davies
Image caption Dyma'r tro cyntaf i Aled Davies fod yn y garfan ryngwladol

Mae mewnwr y Scarlets, Aled Davies, yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Nid yw'r mewnwr wedi chwarae i Gymru hyd yma ond mae lle iddo yn y garfan oherwydd anaf Rhys Webb.

Mae Sam Warburton, Gethin Jenkins, Dan Lydiate a Liam Williams i gyd wedi eu cynnwys er bod amheuon a fyddan nhw'n holliach erbyn dechrau'r gystadleuaeth.

Hefyd wedi ei gynnwys mae'r asgellwr Tom James, sy'n dychwelyd i'r garfan am y tro cyntaf ers 2010, Josh Turnbull a Jonathan Davies, sydd yn ôl yn y garfan wedi anaf.

Ond nid yw Leigh Halfpenny na Scott Williams wedi eu cynnwys oherwydd anafiadau.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cennydd Davies sydd wedi bod yng nghanol cyffro tîm Cymru

'Gwobrwyo chwarae da'

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Rydyn ni wedi dewis carfan sy'n gwobrwyo chwarae da yn ogystal â dewis chwaraewyr sydd â phrofiad ac mae hynny'n bwysig i ni.

"Rydyn ni wedi dewis carfan fwy na'r arfer, mae sawl anaf ar hyn o bryd, ond dydy'r chwaraewyr yna ddim yn bell o fod yn holliach felly rydyn ni'n hapus hefo'r gymysgedd."

Ychwanegodd bod Aled Davies wedi bod yn agos at gael ei ddewis dros y blynyddoedd diwethaf, ond bod ei berfformiadau diweddar wedi haeddu cael ei ddewis.

Dywedodd bod "Tom [James] yn chwarae yn dda iawn i'r Gleision ac mae perfformiadau diweddar Josh [Turnbull] wedi gwneud argraff".

Image caption Mae Tom James yn y garfan am y tro cyntaf ers chwe blynedd

Y garfan yn llawn

Blaenwyr: Rob Evans (Scarlets), Paul James (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Tomas Francis (Caerwysg), Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Scarlets),Scott Baldwin (Gweilch), Kristian Dacey (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Luke Charteris (Racing 92), Bradley Davies (Wasps), Dominic Day (Caerfaddon), Alun Wyn Jones (Gweilch), Josh Turnbull (Gleision), Taulupe Faletau (Dreigiau), James King (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton (Capten) (Gleision).

Olwyr: Aled Davies (Scarlets), Gareth Davies (Scarlets), Lloyd Williams (Gleision), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Caerfaddon), Cory Allen (Gleision), Jonathan Davies (Clermont), Tyler Morgan (Dreigiau), Jamie Roberts (Harlequins), Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), Tom James (Gleision), George North (Northampton), Gareth Anscombe (Gleision), Matthew Morgan (Bryste), Liam Williams (Scarlets).

Image caption Mae pryder am ffitrwydd Dan Lydiate, Liam Williams, Gethin Jenkins a Sam Warburton

Gemau Cymru yn Y Chwe Gwlad

Iwerddon v CYMRU - Dydd Sul, 7 Chwefror (Stadiwm Aviva, Dulyn, 15:00)

CYMRU v Yr Alban - Dydd Sadwrn, 13 Chwefror (Stadiwm Principality, 16:50)

CYMRU v Ffrainc - Dydd Gwener, 26 Chwefror (Stadiwm Principality, 20:05)

Lloegr v CYMRU - Dydd Sadwrn, 12 Mawrth (Twickenham, 16:00)

CYMRU v Yr Eidal - Dydd Sadwrn, 19 Mawrth (Stadiwm Principality, 14:30)

Straeon perthnasol