Ceidwadwyr: Ffrae pwerau treth incwm

treth incwm

Gall BBC Cymru ddatgelu bod mwy na hanner Aelodau Seneddol meinciau cefn y Ceidwadwyr Cymreig yn lobïo'r Canghellor i newid ei benderfyniad i ddatganoli rhai pwerau treth incwm i Gymru heb refferendwm.

Ysgrifennodd pump aelod Torïaidd Cymreig, gan gynnwys cyn-ysgrifennydd Cymru a chadeirydd y pwyllgor materion Cymreig, lythyr at George Osborne yn dilyn y cyhoeddiad ar y dreth incwm yn Natganiad yr Hydref - er mwyn ei annog i ailystyried.

Maen nhw wedi dweud bod y newid polisi "yn amharchus i bobl Cymru" ac "yn torri ymrwymiad maniffesto clir".

Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb eisoes wedi dweud y bydd datganoli pwerau dros y dreth incwm yn "gwella llywodraethiant Cymru".

Codi'r mater

Mae BBC Cymru'n deall y bydd rhai o'r ASau Ceidwadol Cymreig sy'n erbyn y newid yn gobeithio codi'r mater mewn cyfarfod gyda'r Canghellor yn Stryd Downing ddydd Mercher.

Eisoes mae'r pump sydd wedi llofnodi'r llythyr, Byron Davies, Chris Davies, David Davies, James Davies a David Jones, wedi cyfarfod â Mr Osborne er mwyn mynegi eu gwrthwynebiad i'r cynllun fyddai'n golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn cael pwerau'n awtomatig dros werth 10c o'r dreth incwm.

Dywedodd un o'r pump: "Mae hyn yn llinell yn y tywod i lawer ohonon ni" tra bod un arall wedi dweud y byddai'n "destun embaras" pe bai bron i hanner ASau Ceidwadol Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y mesur.

Yn y llythyr at y Canghellor maen nhw wedi dweud eu bod nhw yn ystod yr ymgyrch etholiadol wedi "gallu tawelu meddyliau pobl na fyddai'r Cynulliad yn cael pwerau i godi trethi heb ganiatâd pobl Cymru."

"Fe fyddai gollwng yr ymrwymiad i gynnal refferendwm yn golygu ein bod ni'n torri ymrwymiad maniffesto clir," medden nhw.

'Yn amharchus'

Roedd maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer yr etholiad cyffredinol y llynedd yn cyfeirio at "ddisgwyliad y bydd llywodraeth Cymru yn cynnal refferendwm ar bwerau treth incwm."

Mae'r pump wedi ychwanegu na ddylai pobl yng Nghymru gael eu "trin yn wahanol yn hyn o beth i bobl yr Alban sydd wedi cael pleidlais uniongyrchol ar y mater o bwerau i amrywio trethi."

"Rydym wir yn teimlo y byddai gorfodi pwerau o'r fath heb refferendwm yn amharchus i bobl Cymru," medden nhw.

Ym mis Rhagfyr, fe ddywedodd Stephen Crabb ei fod yn credu bod y farn gyhoeddus yn "hyblyg" ar y mater ond bod yna "resymau cryf iawn, iawn pam bod angen i ni fwrw ymlaen" er mwyn gallu cryfhau Cymru a'i heconomi.

Mae datganoli treth incwm eisoes wedi achosi rhaniadau o fewn y grŵp Ceidwadwol Cymreig ym Mae Caerdydd a diswyddodd arweinydd y blaid Andrew RT Davies bedwar aelod o'i fainc flaen ym mis Chwefror 2014.

Mae Mr Davies wedi addo y byddai'n torri pum ceiniog i'r sawl ar gyflogau uwch ac un geiniog o'r gyfradd sylfaenol yng Nghymru petai e'n llywodraethu.

Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad wedi dweud: "Mae safbwynt y Canghellor a llywodraeth y DU yn glir iawn ar y pwnc yma ac rydyn ni wedi bod yn galw ers talwm ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy atebol am yr arian y maen nhw'n ennill ac yn ei wario."