Oedd yn gyfain hyd yn awr

Dywedodd rhyw sinig rhywbryd mai'r unig beth da i ddod allan o ddiwygiad 1904-05 oedd yr emyn "Dyma Gariad Fel y Moroedd" neu 'cân serch y diwygiad' fel oedd hi'n cael ei galw. Efallai bod hynny braidd yn llawdrwm ond yn sicr roedd diwygiad 04-05 yn dipyn o dân siafins ac yn ei sgil roedd gan Gymru lawer gormod o gapeli a llawer o'r rheiny yn rhy fawr ac yn boddi mewn dyledion.

Yn sicr roedd effeithiau cymdeithasol 04-05 yn llawer llai hirhoedlog na diwygiadau blaenorol. Mae modd dadlau er enghraifft mai diwygiad 1859 wnaeth arwain at oruchafiaeth y blaid Ryddfrydol yng Nghymru - goruchafiaeth a barodd am hanner canrif arall ar ôl i bethau ddistewi.

Dydw i ddim am wneud gormod o'r metaffor yma trwy cymharu Jeremy Corbyn a Humphrey Jones neu Evan Roberts ond mae 'na rhyw naws ddiwygiadol i'r blaid Lafur y dyddiau hyn gyda phobl yn tyrru i ymuno a'r blaid ac yn canfod rhyw swyn newydd yn yr hen hen ganiadau.

Mae'r cynnydd yn aelodaeth y blaid mewn rhai ardaloedd yn syfrdanol. Dyma ddwy esiampl i chi. Honnodd cyfaill i mi bod gan Lafur dwy fil o aelodau yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed erbyn hyn a bod nifer yr aelodau yn Nwyfor Meirionnydd wedi cynyddu o oddeutu hanner cant i'n agos at bum cant.

Ond pwy yw'r bobl yma - ai 1858 o ddiwygiad yw hwn yntau rhywbeth yn debycach i 04-05?

Yr ail sydd debycaf, dybiwn i. Wedi'r cyfan does 'na ddim tystiolaeth bod 'na lwyth o dröedigaethau'n digwydd gyda phobl wnaeth bleidleisio i'r Ceidwadwyr y llynedd yn rhuthro i ymuno a'r rhengoedd Corbynaidd.

Yr hyn sydd yna yw llwyth o ddychweledigion - pobl Lafur wnaeth gefnu ar y blaid yn ystod teyrnasiadau Tony Blair neu hyd yn oed Neil Kinnock ac sydd bellach wedi ail-ymuno. Yn ogystal â'r rheiny ceir llwyth o bobl oedd eisoes yn ystyried eu hun yn bobl y chwith sydd bellach yn gweld Llafur fel cartref addas ar eu cyfer.

Mae'r Guardian wedi llwyddo i gael gafael ar ddadansoddiad o'r aelodaeth a baratowyd gan y blaid ei hun ac mae'r cynnwys yn dra diddorol. Dyma i chi flas o'r peth.

"Groups which are over-represented as Labour party members tend to be long-term homeowners from urban areas (particularly inner city area) who have high levels of disposable income.

"Those who are under-represented tend to be either young singles/families who rent properties on a short-term basis and require financial assistance or those who live in rural communities."

Pwy yw'r aelodau newydd felly? Wel o ddefnyddio ychydig o law-fer newyddiadurol - darllenwyr yr union bapur wnaeth gyhoeddi'r adroddiad yw'n nhw!

A phwy yw'r holl aelodau newydd yna ym Mrycheiniog a Maesyfed a Dwyfor Meirionnydd? Does ond angen dyfynnu'r person wnaeth roi'r ffigwr o Wynedd i fi er mwyn gwybod - "mae rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn gallu siarad Cymraeg."

Rwy'n ymwybod iawn fod 'na beryg yn fan hyn fy mod yn swnio'n ddilornus ynghylch yr aelodau Llafur newydd. Nid dyna yw fy mwriad i ond mae 'na beryg taw'r hyn sy'n cael ei greu yn fan hyn yw sect wleidyddol yn hytrach nac Eglwys sydd a'i drysau'n agored i bawb.