Budd-daliadau: Cymru 'ar ei cholled'

Carwyn Jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi rhybuddio y bydd Cymru "ar ei cholled" os fydd pwerau dros fwy o fudd-daliadau'n cael eu datganoli.

Mae gweinidogion yn San Steffan yn ystyried trosglwyddo cyfrifoldeb am y Lwfans Gweini (Attendance Allowance) - sy'n cael ei dalu i bobl dros 65 sydd ag anabledd ac sydd angen gofal.

Ddydd Iau dywedodd Mr Jones wrth bwyllgor yn Nhŷ'r Arglwyddi ei fod yn gwrthwynebu hyn, a datganoli budd-daliadau yn gyffredinol.

Dywedodd ei fod "yn sicr o'r farn" y dylai'r system fudd-daliadau barhau "ar lefel llawer ehangach".

Fformiwla cyllido

Roedd Mr Jones yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Cyfansoddiadol i ddatganoli a'r DU.

"Nid wyf o blaid datganoli budd-daliadau lles," meddai.

"Mae son nawr am ddatganoli'r Lwfans Gweini... eto nid yw hynny'n rhywbeth y byddwn i am ei weld."

Ychwanegodd Mr Jones bod 7.1% o'r rhai sy'n hawlio'r Lwfans Gweini o Gymru, ond mai dim ond 4.8% o boblogaeth y DU sy'n byw yma.

O dan Fformiwla Barnett, sy'n pennu faint o arian mae Llywodraeth Cymru'n ei dderbyn i San Steffan, fe fyddai Cymru ond yn derbyn 6.2% o'r gyllideb ar gyfer y newid, ac felly "ar ei cholled".

'Tangyllido hanesyddol'

Cytunodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies y byddai'n well cadw'r wladwriaeth les ar gyfer y DU yn gyfan am y dyfodol rhagweladwy.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, y ffordd orau o sicrhau ailddosbarthu cyfoeth o rannau cyfoethocaf i rannau tlotaf y DU oedd i gyflwyno fformiwla sy'n seiliedig ar angen yn lle Fformiwla Barnett.

Byddai hyn, meddai, yn dod â "thangyllido hanesyddol yng Nghymru" i ben.

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wrth y pwyllgor bod cytundeb ymhlith pleidiau gwleidyddol Cymru bod angen diwygio Fformiwla Barnett, ond mai'r drafferth oedd "ceisio darbwyllo llywodraeth San Steffan o hynny".

Straeon perthnasol