Addewid y Gweinidog Addysg i gadw cymhorthdal myfyrwyr

Darlith

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi dweud wrth y BBC y bydd y cymhorthdal ffioedd myfyrwyr yn parhau mewn bodolaeth wedi etholiad y Cynulliad ym mis Mai pe bai Llafur yn parhau mewn grym.

Ond dywedodd Huw Lewis ei bod yn bosib y bydd rhaid i fyfyrwyr gael eu hasesu cyn derbyn ffioedd.

Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr Cymru yn talu £3,685 tuag at eu ffioedd dysgu, lle bynnag maen nhw'n astudio yn y DU.

Llywodraeth Cymru sy'n talu'r gweddill, sef hyd at £5,315 y flwyddyn.

'Cadw at yr egwyddor'

Dywedodd Mr Lewis wrth raglen Sunday Politics Wales bod Llafur Cymru wedi ymroi i'r egwyddor y dylai myfyrwyr o Gymru fod â'r hawl i astudio ble bynnag maen nhw eisiau yn y DU.

Ond gwrthododd gadarnhau a fyddai'r cymhorthdal ar gael i bob myfyriwr - sef y sefyllfa ar hyn o bryd.

"Bydd yn rhaid aros i weld be mae'r maniffesto yn ei ddweud am hynny," meddai.

"Rwy'n credu mai'r brif egwyddor ddylai fod - y byddwn ni yn buddsoddi yn eich uchelgais fel person ifanc, ac ni fyddwn yn cyfyngu ar eich uchelgeisiau, yn enwedig pan maen fater o ddaearyddiaeth.

"Pe bai chi'n credu y bydd o fwy o fudd i chi dros y ffin, neu yn Yr Alban neu Ogledd Iwerddon mae hynny'n iawn. Byddwn yn cadw at yr egwyddor honno."

Arolwg

Ond mae prifysgolion wedi dadlau ers tro bod cymorthdaliadau o'r fath yn golygu bod degau o filiynau o bunnoedd yn gadael y sector addysg uwch yng Nghymru, ac yn mynd i Loegr.

Y llynedd, dywedodd pennaeth y corff sy'n gyfrifol am ddosbarthu arian i brifysgolion Cymru bod angen i'r llywodraeth newid y ffordd mae'n cyllido myfyrwyr o Gymru - a hynny er mwyn sicrhau nad oes bwlch yn ymddangos rhwng prifysgolion Lloegr a Chymru.

Yn 2013 fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu bod gan y corff sy'n cynrychioli prifysgolion yma bryderon eu bod ar eu colled o'i gymharu â phrifysgolion yn Lloegr, a hynny oherwydd y cymorthdaliadau ffioedd.

Ym mis Tachwedd 2013, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi arolwg o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr.

Bydd cadeirydd yr arolwg, yr Athro Ian Diamond, yn cyhoeddi rhai o'i gasgliadau yn ddiweddarach, ac mae disgwyl i'r arolwg llawn gael ei gyhoeddi ar ôl etholiad y Cynulliad ym mis Mai.