Cwpan Her Ewrop: Gleision 74-6 Calvisano

Tom James Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth capten Cymru Sam Warburton chwarae 80 munud wrth i'r Gleision roi crasfa i Calvisano - ond methu wnaeth eu hymdrechion i sicrhau lle yn rownd nesa' Cwpan Her Ewrop.

Hon oedd gêm gyntaf Warburton ers mis Tachwedd wrth iddo ddychwelyd ar ôl anafu ei bigwrn.

Bydd hynny'n newyddion calonogol i Gymru gyda dim ond pythefnos i fynd cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe lwyddodd y Gleision i sgorio 12 cais, gyda'r asgellwr Tom James yn croesi tair gwaith.

Ond gan i Montpellier guro Harlequins 42-9 yn y gêm arall yn y grŵp, bu'n rhaid i'r Gleision fodloni ar y trydydd safle yn Ngrŵp 3.