Casnewydd 2-2 Dagenham & Redbridge

Conor Wilkinson Image copyright Huw Evans picture agency

Wedi wythnos o ddigwyddiadau oddi ar y cae, roedd 'na ddigon i drafod ar y cae yn Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Cyn y gêm, dim ond pedwar pwynt oedd yn gwahanu'r ddau glwb.

Dechrau gwael i Gasnewydd wedi i Christian Doidge, sy'n wreiddiol o Gasnewydd, roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond 51 eiliad.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i'r tîm cartref bedwar munud yn ddiweddarach wedi i Joe Worrall benio'r bêl i gefn rhwyd Casnewydd.

Roedd yr ail hanner yn gwbl wahanol, gydag elfen fwy cadarnhaol ym mherfformiad tîm Warren Feeney, ac fe sicrhaodd Ayina a Wilkinson y pwynt gwerthfawr i'r Alltudion yn y 10 munud olaf.