Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 10-22 Northampton

Scarlets 10-22 Northampton Image copyright Getty Images

Dechreuodd y Scarlets gyda pherfformiad addawol yng ngêm olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop am y tymor hwn, gêm nad oedd yn golygu fawr ddim i dîm y sosban, gan eu bod eisoes allan o'r gystadleuaeth.

Wedi dweud hynny, fe ddaeth y cais cyntaf i Northampton wrth i Harry Mallinder groesi'r llinell, ac yna Stephen Myler yn ei throsi am sgôr.

Roedd y glaw yn gwneud pethau'n llithrig iawn, ym Mharc y Scarlets, ond nid oedd hynny yn ddigon i atal George Pisi rhag sgorio ail gais y Seintiau.

Fe lwyddodd gôl gosb gan Aled Thomas i ddod a thri phwynt i'r Scarlets cyn yr hanner.

Dim newidiadau i'r Scarlets yn ystod hanner amser, ond 'doedd hi ddim yn hir nes i Northampton sgorio eto.

Ni wnaeth y ffaith i Maselino Paulino gael ei anfon i'r gell cosb, gan adael y Scarlets gyda 14 dyn am 10 munud, helpu eu sefyllfa, na chwaith i Sam Dickinson a George North groesi am geisiadau i'r Seintiau.

Ond fe ddaeth cais i'r Scarlets yn y diwedd, wrth i Rhodri Jones groesi'r llinell. Ond roedd hi'n rhu hwyr erbyn hynny i newid tynged y gêm. Northampton, felly, yn mynd a hi wedi'r chwiban olaf.