Caerdydd 2-2 Rotherham

Caerdydd 2-2 Rotheram Image copyright Huw Evans picture agency

Fe sgoriodd Anthony Pilkington dair gôl brynhawn Sadwrn - gan gynnwys un yn ei rwyd ei hun - wrth i Gaerdydd a Rotherham ymladd yn wyllt mewn gêm a orffennodd yn gyfartal.

Fe lwyddodd ergyd daclus gan Pilkington i roi Caerdydd ar y blaen hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf, ond fe ddaeth gôl gan Joe Newell i'r ymwelwyr, gan unioni'r sgôr cyn yr egwyl.

Fe aeth Rotherham ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner gyda gôl annisgwyl gan Pilkington yn ei rwyd ei hun wedi cic gornel.

Ond fe darodd yr Adar Gleision yn ôl gyda gôl arall gan Pilkington, ond fe gafodd amddiffynnwr Caerdydd, Lee Peltier ei anfon i ffwrdd wedi iddo weld yr ail gerdyn melyn.

Mae Caerdydd yn parhau i fod yn y nawfed safle yn y Bencampwriaeth, tra bod Rotherham yn parhau i fod yn 21ain safle.