Gwrthdrawiad Sir Gaerfyrddin: Dyn 23 oed wedi marw

Heddlu

Mae dyn 23 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 yn Sir Gaerfyrddin.

Fe wnaeth gar Mini y dyn adael y ffordd ger Bancyfelin rhyw bryd rhwng 17:30 ddydd Sadwrn a 00:40 fore Sul.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ceisio sefydlu pryd yn union y digwyddodd y gwrthdrawiad, a dywedodd y gallai hyd at saith awr fod wedi pasio cyn i'r digwyddiad gael ei ddarganfod.

Maen nhw yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.