Y dyfarnwr Nigel Owens i dderbyn gradd er anrhydedd

Nigel Owens Image copyright Getty Images
Image caption Nigel Owens oedd y dyfarnwr yn ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd

Bydd y dyfarnwr rygbi Nigel Owens yn derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

Bydd Owens, o Fynyddcerrig yn Sir Gaerfyrddin, yn derbyn LLD (Doethur mewn Cyfraith) gan Goleg y Gyfraith.

Mae disgwyl hefyd i'r cynllunydd theatr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Sean Crowley, gael ei anrhydeddu.

Bydd y ddau yn derbyn eu hanrhydeddau mewn seremonïau ddydd Llun.