Chwilio'r môr wedi adroddiadau bod person yn y dŵr

Penarth Image copyright Tom Bridge

Mae ymgyrch chwilio wedi ei lansio oddi ar arfordir Penarth yn dilyn adroddiadau bod person wedi mynd i mewn i'r môr.

Cafodd yr heddlu eu galw gan bysgotwr nos Sul yn credu iddyn nhw weld rhywun yn cerdded i'r dŵr.

Dywedodd Heddlu'r De bod gwylwyr y glannau wedi dechrau chwilio gyda badau achub a hofrennydd.

Yn ôl y llu, does dim sicrwydd bod unrhyw un yn y dŵr, ond maen nhw wedi gyrru swyddogion yno i helpu.