Colofn Jo Blog

Jo Blog

Mae'r Cymry Cymraeg wedi eu cythruddo, a'r hyn sydd wedi eu cynhyrfu ydy cymal mewn erthygl yn y Western Mail ar 23 Ionawr yn cyfeirio at raglen 'Welsh or English? Lucy Owen's Big School Dilemma' sy'n rhan o gyfres Deall Cymru BBC Cymru.

Bu'r hashnod #DespiteBeingTaughtInWelsh yn trendio ar Twitter trwy'r DU wedi i'r erthygl awgrymu bod canolwr tîm rygbi Cymru, y Dr Jamie Roberts, wedi llwyddo i raddio mewn meddygaeth er gwaetha'r ffaith ei fod o wedi cael addysg Gymraeg. Mae'r papur bellach wedi ymddiheuro.

Dydi Jo Blog ddim yn un i drydar ond mae o'n barod i glochdar ar Cymru Fyw a rhoi ei farn o am stori fawr y penwythnos:


Go brin bod Mr a Mrs Lucy Owen - ei phenderfyniad hi ydy o mae'n debyg - wedi disgwyl y fath sylw. Na Dr Jamie Roberts chwaith am wn i.

Ond dwi wedi bod yn meddwl falle ein bod ni'n methu'r pwynt yn gyfan gwbl.

Dwi ddim yn credu mai trafodaeth ynglŷn â lle mae'r bachgen bach yn cael ei addysg yw hyn (a dwi ddim yn pigo arnyn nhw, mae'n drafodaeth gyffredin dwi'n siwr, ond eu dewis nhw yw gwneud hyn yn gyhoeddus).

Dwi'n credu mai trafodaeth ynglŷn â lle mae o'n cael ei Gymraeg ydy hi.

Dwi'n teimlo fel cychwyn hashtag newydd #despitebeingtaughtinenglish… it was really in Welsh

#despitebeingtaughtinenglish roedd fy athrawon i'n siarad Cymraeg tu allan i'r dosbarth…

#despitebeingtaughtinenglish ro'n i'n cwffio yn Gymraeg…

#despitebeingtaughtinenglish roedd gen i Young Farmers a Ysgol Sul, doedd hyd yn oed y Scowts ddim yn llwyddo i fod yn Saesneg iawn.

#despitebeingtaughtinenglish dwi'n meddwl yn Gymraeg.

Achos mae sawl peth wedi digwydd i mi yn ddiweddar sydd wedi torri nghalon i.

Dosbarth cyfrifiaduro trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei redeg gan y Fenter Iaith (na do'n i ddim yn gwybod y cwbl, ond dwi yn erbyn hyn, watch out!) Oedd y tiwtoriaid yno i'n dysgu ni trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedden ni yno i gael ein dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, am ein bod ni am gael ein dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedden ni yno mewn ffordd ymarferol iawn i 'Achub yr Iaith'. Eto roedd y ddau diwtor, ac un o blith y dosbarth, yn siarad Saesneg ar y ffordd i mewn. Cynnal y dosbarth yn Gymraeg ac yn cerdded allan yn siarad Saesneg eto. Roedd ganddyn nhw'r sgiliau iaith angenrheidiol. Roedden nhw yn defnyddio'r sgil i drosglwyddo sgil i ni. Jyst fel tasan nhw'n dysgu Ffrangeg neu'n waeth byth Lladin. Sgil oedd hi. Dim mwy.

Wedyn o'n i yn y lle Pontio yna. Eitha' da i'r Scooter, gyda llaw. (Ddywedwn i bod pawb angen blydi sgwter ar ôl parcio mor bell.) Dwi wedi dweud o'r blaen, unwaith 'dach chi ar lefel sgwter does neb yn sylwi arnoch chi. Dach chi'n llythrennol islaw sylw.

Felly o'n i'n gleidio o gwmpas yn meindio fy musnes (wel, fel gwelwch chi, dydy hynny ddim yn llythrennol yn wir …). O'n i'n gleidio o gwmpas a dau academic yn cerdded o mlaen i... dau o be oedden ni'n arfer ei alw'n Celtic Freaks. Cymro a Sais.

Roedd y naill yn dod o'r Sowth a'r llall, y Sais, yn lecio brolio fel ei fod o wedi dod yma, i'n plith ni, i achub ein hiaith ni drostan ni. Ond roedden nhw'n siarad Saesneg efo'i gilydd. Yn gywir iawn ac yn hynod o posh. Ond Saesneg oedd hi.

Mae'n siŵr y gallen nhw gywiro fy nhrydydd person lluosog gorffennol amherffaith i'n iawn. Ond roedd y presennol a'r dyfodol yn edrych yn amherffaith iawn yn eu dwylo nhw, o lle o'n i'n eistedd.

Ers talwm roedd yna rhyw edge i'r dysgwyr. Radicals oedden nhw. Pobl oedd am newid y byd. Am achub y byd. Oedd am gefnogi'r underdog, yng Nghymru, ym Mhrydain, ym mhedwar ban byd. Nid pobl felly sy'n chwilio am sgiliau ar eu CV...

Adewish i Pontio yn reit ddigalon ac off a fi i un o fy hoff gaffis yn dre Bangor. Yn fano roedd yna lond lle o ferched del, digon cyffredin, yn siarad Cymraeg llond pen ar dopie eu lleise efo miloedd o blant bach.

Roedd y diawled yn mynnu dringo ar y sgwter. Ond doedd dim o ots gen i. Es i o 'no yn hapusach. Go brin y byddai rhain yn poeni llawer am iaith addysg eu plant ond roeddan nhw'n eu rhegi nhw'n Gymraeg. A falle mai dyna sy'n bwysig yn y pen draw.