Carwyn Jones yn ymddiheuro am werthiant tir

carwn jones
Image caption Fe ymddiheuroedd y prif weinidog ddydd Mawrth

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi ymddiheuro i Aelodau'r Cynulliad am werthiant tir cyhoeddus oedd yn destun ffrae yn y Senedd.

Roedd ei ymddiheuriad yn dilyn adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad am werthiant sawl llain o dir oedd yn eiddo cyhoeddus am symiau llawer llai na'u gwerth.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio oedd yn gyfrifol am y gwerthiant ar ran Llywodraeth Cymru, a dywedodd Mr Jones fod y mudiad wedi "disgyn islaw'r safonau disgwyliedig".

'Gwallau sylfaenol'

Yn ôl y pwyllgor, roedd 'na "wallau sylfaenol" wrth reoli, goruchwylio a chynghori'r gronfa a bod hynny wedi costio degau o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr Cymru.

Cafodd y gronfa ei sefydlu yn gorff hyd braich gan y llywodraeth i werthu tir ar draws Cymru ac roedd yr arian ar y cyd ag arian Ewropeaidd i'w defnyddio i ailfuddsoddi mewn ardaloedd oedd angen eu hadfywio.

Dywedodd y llywodraeth y bydden nhw'n astudio'r adroddiad ac yn ymateb yn llawn cyn diwedd y tymor Cynulliad presennol.

Er mai'r bwriad gwreiddiol oedd eu gwerthu ar wahân, cafodd casgliad o 15 safle eu gwerthu'n un portffolio gan y gronfa am £21 miliwn yn 2012.

Clywodd y pwyllgor nad oedd bwrdd rheoli'r gronfa wedi derbyn gwybodaeth allweddol am werth y tir oedd yn rhan o'r portffolio nac am ymholiadau prynwyr posib.

Image caption Fe gafodd gasgliad o safleoedd eu gwerthu fel un portffolio gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

Argymhellion

Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud 18 o argymhellion, gan gynnwys:

  • fod angen i Lywodraeth Cymru gryfhau'r trefniadau ar gyfer monitro a goruchwylio cyrff hyd braich
  • rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod gan aelodau'r bwrdd yr arbenigedd a'r gallu i gyflawni eu dyletswyddau
  • dylai Llywodraeth Cymru ystyried trefniadau gorswm pryd bynnag maen nhw'n cael gwared ar asedau cyhoeddus ble mae potensial i'w datblygu yn y dyfodol.

Clywodd y pwyllgor fod Lambert Smith Hampton, un o'r cyrff fu'n rhoi cyngor arbenigol i'r bwrdd, wedi gweithredu yn y gorffennol ar ran un o gyfarwyddwyr prynwr y tir, sef South Wales Land Developments Cyf, ac wedi llofnodi cytundeb i wneud hynny eto ddiwrnod ar ôl y gwerthiant.

Dywedodd llefarydd ar ran Lambert Smith Hampton eu bod "wedi croesawu'r cyfle i roi tystiolaeth i'r pwyllgor" ond "nad oedden nhw'n credu bod yr adroddiad yn adlewyrchu'r hyn a ddywedwyd yn sesiynau'r pwyllgor."

'Siomi'

"Rydym wedi siomi na chawson ni amser i wneud sylw am gasgliadau'r adroddiad. Rydyn ni'n dal i gredu ein bod wedi cael canlyniad da i'n cleient."

Mae'r llywodraeth wedi amlinellu sut y bydd y £16.5 miliwn sy'n weddill o'r gronfa yn cael ei wario ar brosiectau adfywio yng Nghymru dros y flwyddyn nesa'.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau: "Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi'r bennod olaf yn yr ymchwiliadau ynghylch y gronfa. Mae'n golygu ein bod nawr mewn sefyllfa i gymryd camau i ryddhau'r cyllid sylweddol hwn er budd prosiectau adfywio cymunedol ledled Cymru.

"Dylai taliadau cytundebau pellach yng Nghaerdydd a Mynwy hefyd arwain at gyllid ychwanegol mawr ar gyfer gwaith buddsoddi yn ystod tymor nesaf y Cynulliad."

Image caption Fe gafodd nifer o safleoedd eu gwerthu ar draws Cymru

Dywedodd Darren Millar AC, cadeirydd y pwyllgor: "Er bod cysyniad y gronfa yn arloesol ym marn y Pwyllgor, daethom i'r casgliad iddi gael ei rhoi ar waith yn wael oherwydd diffygion sylfaenol yn nhrefniadau goruchwylio a llywodraethu Llywodraeth Cymru, a thrwy esgeulustod gan y rhai a benodwyd ac yr ymddiriedwyd ynddynt i ddarparu cyngor ac arbenigedd proffesiynol i fwrdd y gronfa."

Straeon perthnasol