Damwain ar yr A55 ger Llanfairfechan

Bu car yr heddlu a dau gerbyd arall mewn gwrthdrawiad difrifol ar yr A55 ger Llanfairfechan.

Digwyddodd y ddamwain ar y ffordd ddwyreiniol tua 20:00 ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru fod y ffordd wedi ei chau, a thraffig yn cael ei ddargyfeirio.

Mae'r heddlu wedi gwneud apêl am dystion i'r digwyddiad.